Y Bigwn

 

Cornel Coginio

Y Gornel Goginio

 

12 Cacen Gwpan Fanila

Cacennau Cwpan

Cacennau Cwpan

Cynhwysion

125g o Flawd Codi

125g o Siwgr Caster

¼ llwy de o Bicarbonate of soda

125g Margarine neu menyn di-hallt (meddal)

2 Wy

2 llwy fwrdd o lefrith

1 llwy de o vanilla extract

500g o siwgr eisin

1 llwy de o vanilla extract

3 llwy fwrdd o lefrith

125g o fenyn di-hallt (meddal)

Fondant pinc a gwyrdd

 

 

Dull

  1. Cynheswch y popty i 175c a rhowch 12 cês cacen gwpan yn y tun.
  2. Arllwyswch yr holl gynhwysion mewn bowlen a defnyddiwch gymysgydd trydan er mwyn cymysgu’r cyfan ar gyflymder canolradd am 30 eiliad. (Tip- peidiwch a gor-gymysgu y gymysgedd neu ni fydd y cacennau yn codi cystal.)
  3. Defnyddiwch 2 lwy pwdin i arllwys y gymysgedd i’r 12 cês gan lenwi ¼ o’r cês.
  4. Rhowch y tun yn y popty am 20-25 munud nes eu bod yn euraidd.
  5. Gadewch i’r cacennau oeri.
  6. Er mwyn creu’r eisin chwipiwch y menyn mewn bowlen gyda chymysgydd trydan a’r gyflymder uchel nes eu bod yn hufennog ac ysgafn ac wedi dwblu mewn maint.
  7. Ychwanegwch hanner y siwgr eisin gan gymysgu yn ofalus.
  8. Ychwanegwch gweddill y siwgr eisin a’r vanilla ac ychwanegu y llefrith llwyed ar y tro am gyfnod (2 munud) ar gyflymder uchel nes eu bod yn welw mewn lliw .
  9. Wedi i’r cacennau oeri ‘peipiwch’ neu defnyddiwch paled er mwyn addurno’r cacennau.

 

 

Brownies Siocled ‘Crème Egg’

Brownies

Y Brownies yn barod

Cynhwysion

185g o fenyn di-dallt

90g o siocled tywyll

90g o siocled golau

85g o flawd plaen

40g powdr cocoa

3 wy

275g Siwgr Caster

6 wy ‘Cadbury’s Crème egg’, wedi eu torri yn hanner

 

Dull

1.Cynheswch y popty i 160c a irwch dun pobi sgwâr 20cm.

2.Toddwch y menyn a'r siocled gyda'i gilydd naill ai yn y microdon neu mewn powlen dros ddŵr poeth.

3.Torrwch 3 wy mawr i mewn i fowlen fawr a tholltwch 275g o siwgr caster. Gyda chymysgydd trydan ar gyflymder uchel, chwisgiwch yr wyau a'r siwgr nes eu bod yn edrych yn drwchus ac yn hufennog, fel ysgytlaeth! Gall hyn gymryd 3-8 munud.  

(TIP- bydd y cymysgedd yn troi'n welw ac yn ddwbl ei faint gwreiddiol pan yn barod)

4. Arllwyswch y gymysgedd siocled wedi'i oeri dros y mousse, yna cymysgwch y cyfan.

5. Daliwch gudyll dros y fowlen o gymysgedd siocled a hidlwch y cymysgedd coco a blawd,     gan ysgwyd o ochr i ochr, cymysgwch y gymysgedd yn araf.

6. Arllwyswch y gymysgedd i’r tun pobi a'i goginio am 15 munud ac yna ewch ag ef o'r popty a gosod yr haneri'r Crème Egg Cadbury's yn ysgafn i mewn i'r cymysgedd. Rhowch yn ôl yn y popty am 10-15 munud ychwanegol.

7. Gadewch iddo oeri cyn ei dynnu o'r tun a'i dorri yn 12 sgwâr gyfartal.