Clywais sŵn drws y car yn agor … a chau, agor … a chau. Mae gan Dad ffobia - ofn syrthio allan o gar. Felly pan mae Dad yn cau drws car, mae o’n ei gau o’n iawn.
“Fe fydd Dad wedi malu’r car ‘na” meddai Dora Wyn. “Dydy o ddim ffit i gael car. I ble mae o’n mynd rwan?”
Pan mae ‘na waith i neud, mae dad yn diflannu. Ac roedd gynnon ni waith. Symud tŷ.
“Mae o’n mynd i weld Tom Lloyd”, meddai mam. “Mae o’n cael benthyg tryc neu rywbeth.”
“Ych”, meddai Dora Wyn, “yr hen dryc gwyrdd na? ‘Dych chi wedi i weld o? Mae Mr Lloyd yn ei ddefnyddio fo i popeth. Roedd o’n cario moch ynddo fo dydd Sadwrn!”
“Os bydd o ‘chydig yn fudur,” meddai mam. “mae ‘na ddigon o ddŵr yma. Rwan ewch i nôl y dillad o’r llofft fach, mae’n nhw yn y bagiau plastig. Pan ddaw Dad yn ôl dwi isio llwyth yn barod iddo fo.”
“Os daw o’n ôl”, meddai Dora Wyn. “Dych chi’n gwbod sut un ydy o. Fe fydd o wedi dechra siarad hefo Lloyd ac wedi anhofio popeth am bob dim.”
“Paid a siarad yn wirion”, meddai Mam. “Dewch, brysiwch, neu fe fydd o’n ôl cyn i ni wneud dim.”
Fuodd dad ddim yn hir, chwarae teg, ond roedd o wedi cael anturiaethau ar y ffordd. Ychydig o drwbwl hefo’r tryc - dim byd mawr.
Roedd ‘na yrrwr lorri wedi cynnig ’i dagu o, a dweud rhywbeth cas a rŵd wrtho fo. Ddaru Dad ddim dweud am beth na pham. Hefyd roedd o wedi trio parcio yn y Stryd Fawr ac fe gafodd docyn a llond ceg gan fwli mawr o warden traffig.
“Tasa hi ddim wedi bod yn gwisgo sgert,” meddai Dad, “Fe fyddwn wedi rhoi llond ceg yn ôl iddi hi.”
“Tasa hi wedi bod yn gwisgo sgert” meddai Dora Wyn, “Fe fyddech chi’n dal yn y Stryd Fawr.”
“Beth sy’n bod ar y ferch ‘ma? gofynnodd Dad. “Tyrd, mwy o waith a llai o dafod plîs i ni gael dechra.”
Roedd Dora Wyn yn iawn. Roedd Tom Lloyd wedi bod yn cario moch yn y tryc. “Dewch”, meddai Dad pan welodd o fod Dora’n mynd i wneud ffys. “Ddaru ‘chydig o faw ddim gwneud drwg i neb. Gari, dos i nôl y beipen ddŵr ac mi wna i facio’r tryc at y garej. Fyddwn ni ddim dau funud yn ei olchi o.”
Pan glywais i’r gair ‘bacio’, roeddwn i’n gwbod ein bod ni am syrcas, achos dydy Dad byth yn bacio. Dydy o ddim yn gallu bacio. Fo ydy’r baciwr gwaethaf yn y byd.
“Ymlaen mae car i fod i fynd,” meddai Dad “Ddim yn ôl,”
Roedd gynnon ni ddigon o amser ac roedd y tywydd yn sych. Roedd y dodrefn mawr wedi mynd. ‘Roedd ‘Price Removals’ wedi eu symud nhw ganol yr wythnos, ac roedd gynnon ni benwythnos i orffen y gwaith - offer yr ardd a’r gegin, dillad, sachau cysgu, llestri etc … a soffa … Pam ddaru ‘Price Removals’ adael y soffa ‘sgwn i?
“Reit,” meddai Dad, fel tasa fo’n mynd i godi’r Titanic. “Pawb o’r ffordd. Mae gan y tryc ‘ma i feddwl i hun.”
Oedd wir. Doedd o ddim eisiau mynd yn agos i’r garej beth bynnag - ddim ar hyd y llwybr ‘na’n rhy gul.” Ar ôl i ni orffen brwsio a golchi a gwlychu, es i nôl ‘chydig o fagiau plastig gwag o’r sied i roi ar lawr y tryc. Roedden i’n barod i lwytho.
“Beth sy yn y bagiau plastig du ‘ma?” gofynnodd Dad a rhoi cic i un ohonyn nhw.
“Dillad”, meddai Mam drwy ffenest y stafell fyw. “Dim ond dillad.”
“Dim ond dillad?” meddai dad. ‘Dyn ni isio cadw’r cwbwl?”
“Wel, os ‘dych chi isio cerdded o gwmpas yn eich trôns a’ch fest Wiliam,” meddai Mam “Iawn ffoniwch siop, Oxfam ‘rwan.”
“O.K.” meddai Dad. “Wnes i ddim ond gofyn. I mewn â nhw ‘ta.”
