Y Bigwn

Yr ardd 

gardd

Gan ein bod ni gyd ar ‘lock down’ ac adref dros y cyfnod hwn mae’n gyfle gwych i ni lenwi ein hamser tu allan yn yr ardd. Mae’n adeg hau a phlannu planhigion. Mae llysiau megis cennin, nionod gwyrdd a sbigoglys yn barod i’w cynaeafu ers eu plannu dros y Gaeaf.

 

 

hau mewn blychau

Tips
  1. Cadw ar ben y chwyn-. Gyda’r tymheredd yn codi mae chwyn yn dechrau tyfu. Er mwyn lleihau'r broblem mae rhaid tynnu’r gwreiddiau allan neu chwalu compost ar eu pennau i’w hatal.
  2. Hau- Mae hi’r adeg perffaith i hau ffa a pys. Rhaid cofio gosod ffyn i’r mathau sy’n dringo ond gellir gadael mathau eraill i dyfu heb gymorth. Dyma’r cyfle olaf i hau ysgewyll, bresych Haf/Gaeaf eleni.
  3. Wrth i’r pridd gynhesu mae’n bosib hau hadau pannas, swej a moron a betys yn syth i mewn i’r pridd.
  4. Plannu- Mae’r llysiau a wnaethoch hau yn y tŷ gwydr ym mis Mawrth yn barod i’w plannu yn yr ardd. Mae rhain yn cynnwys letys, bresych Gwanwyn/ Haf, blodfresych, ysgewyll a brocoli.

 

ffa wedi egino

ysgewyll wedi egino mewn blychau

 

Pys

 

 

Pys Per

Er mwyn galluogi i bys pêr dyfu mae’n rhaid gosod ffyn er mwyn eu helpu i ddringo. Mae’n rhaid eu lleoli yn yr ardd ble y mae digon o olau haul. Cofiwch rhoi digon o ddŵr er mwyn hybu tyfiant. Rwyf wedi ychwanegu compost cartref er mwyn rhoi maeth i’r planhigion a’i gymysgu gyda’r pridd. Erbyn mis Mehefin mi fydd y pys pêr yn dechrau blodeuo ac yn parhau drwy’r Haf.

 

Gwenyn

Rhosyn Mynydd

Rhosyn Mynydd

Dant Y Llew

Dant Y Llew

Mae cadw gwenyn yn diddordeb y byddwn yn argymell i unrhyw berson ddechrau. Adeg yma o’r flwyddyn mae’r gwenyn yn dechrau cynyddu yn eu nifer. Mae digonedd o flodau ar gael iddyn nhw gasglu paill a neithdar fel dant y llew, clychau’r gog, a’r ddraenen wen. Nod y gwenynwr yw cynyddu'r nifer o gychod gwenyn ag i gynhyrchu gymaint o fêl ag sy’n bosibl.  Rhannu’r cwch yn ddau i gwch llai o’r enw ‘Niwc’ yw’r dechneg orau i gynyddu heidiau gwenyn. Mae disgwyl i’r cwch llai fagu brenhines ei hunain o’r wyau. Mae’n broses fyddai’n digwydd yn naturiol heb i’r gwenynwr ymyrryd gan mai adeg yma o’r flwyddyn maent yn heidio.

 

 

Clychau’r gog

Clychau’r gog

Draenen Wen

Draenen Wen

 

 

Cychod Gwenyn

Cwch Gwenyn

 

Morgan Cordiner