Wythnos 6 – nos Wener
Wel, roedd hi’n ymddangos ar un adeg ein bod ni’n gweld y golau ymhen draw’r twnnel gyda sȏn am godi ambell waharddiad sydd arnom o ran gwaith a siopa.
Braidd yn fuan, mi deimlais, gan fod y gwleidyddion newydd ymestyn y gwaharddiad am dair wythnos arall ychydig ddyddiau yn ȏl, a phawb yn ei iawn bwyll yn gefnogol i hynny.
Wedi’r cyfan mae’r marwolaethau yn y cannoedd yn hytrach na’r degau, ac y mae yna debygolrwydd uchel y bydd dros ugain mil o drigolion Prydain wedi marw yfory o’r haint hwn.
Eto i gyd, yn ȏl yr ystadegau yma yng Ngogledd Cymru does yna fawr o farwolaethau oherwydd yr haint. Oni ddylem ni weld rhyw godi ar y caethiwed hwn?
Ond diolch i’r drefn y mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi’n hachub drwy gyfrwng ei aneffeithiolrwydd trychinebus.
Doedd neb mewn awdurdod yn y bwrdd wedi sylweddoli bod Cymru yn cyhoeddi ystadegau dyddiol, ie dyddiol, o’r bywydau a gollwyd.
Ddoe ddiwethaf dyma’r bwrdd yn gwneud cyhoeddiad am 80 a throsodd o farwolaethau yn ei libart o achos coronafeirws.
Golygodd hyn fod ystadegau Cymru gyfan wedi neidio o‘r dauddegau i 110 dros nos, ac roedd hynny yn sioc aruthrol i bawb, wel heblaw pen bandits Betsi.
Wrth gwrs, roedd y ffigurau yn gywir ac wedi’u cofnodi’n gywir ond roedd yna drafferthion wedi codi wrth gofnodi’r ystadegau. Y gair am hyn oedd “issue”.
Sȏn am guddio tu ȏl i niwlen o iaith swyddogol sydd yn gyfystyr â “Wps! Mae rhywun wedi gwneud coblyn o gamgymeriad yma.”
Sgwn i fydd Betsi yn cyhoeddi hysbyseb yn gofyn am ystadegydd sydd yn gallu defnyddio abacus? Does ryfedd fod y bwrdd yn destun sbort gan lawer o bobl, a hynny yn gwbl annheg ar y cannoedd o weithwyr cydwybodol a gyflogir ganddyn nhw.
Yn bendant, fe ddylai rhywun gael ei alw i gyfrif am hyn, a rhywun yn uchel i fyny yn y bwrdd fod yn atebol am ganiatáu’r fath aflerwch.
Erbyn yfory bydd hyn oll wedi mynd yn angof a ‘r trafodaethau wedi troi at feysydd eraill yn ymwneud â’r haint.
Er gwaethaf popeth mae yna bwysau mawr o sawl cyfeiriad ar godi rhyw gymaint ar y gwaharddiadau. Gwell fyddai aros tan ddechrau Mehefin cyn cymryd y camau hynny.
Erbyn hynny, byddai dwy ŵyl y banc wedi bod, a llai o esgus i drigolion y dinasoedd mawrion heidio i gefngwlad a’r arfordir gan beryglu pob un ohonom.
A beth am Donald yn awgrymu i bobl chwistrellu diheintydd i’w cyrff i ladd y feirws! Mae o’n d’eud pethau rhyfeddach fyth yn ddyddiol tra bod cyfanswm y marwolaethau yn ei wlad bellach yn nesáu at y nifer o Americanwyr a laddwyd dros gyfnod o ugain mlynedd yn y rhyfel yn Fietnam.
Wythnos 7- nos Wener
Dydy hon ddim wedi bod yn wythnos rwydd o gwbl – y tywydd ychydig yn anffafriol a chaethiwed yn dechrau gwasgu.
Ni fu’n help o gwbl ychwaith cael fy ystyried yn un o’r garfan oedrannus. Hyd ddeufis yn ȏl roeddwn i - a llu yr un fath â fi - yn y dosbarth hwnnw o bobl oedd wedi ymddeol, ac o ganlyniad yn werthfawr iawn i’r gymdogaeth.
Ni oedd y bobl oedd yn cefnogi’r economi leol gan fynychu caffis, siopau elusennol a salons trin gwallt. Ni hefyd oedd yn mynychu’r dosbarthiadau cadw’n heini, ioga a chelfyddyd a’r cymdeithasau diwylliannol ac eglwysig o bob math.
A thros nos rydym ni bellach wedi’n labelu fel yr oedrannus â’n bywydau mewn perygl, a hynny oherwydd ein bod ni dros 70 mlwydd oed.
Bygywth ein cadw ni dan warchae am gyfnod hwy na phawb arall mae’r gwleidyddion ...er ein lles ni’n hunain, wrth gwrs.
Sȏn am godi’r felan ar rywun.
Ydyn nhw’n ymwybodol fod yna geraint a chymunedau yn dibynnu arnom ni?
Wel, er mwyn codi ychydig ar f’ysbryd fe wnes i wrando ar gryno ddisg Abba. Roedd Waterloo, Voulez Vous a Fernando yn ymylu ar wneud imi fod eisiau dawnsio o amgylch yr ystafell fyw, ac mae hynny yn dipyn o gamp, coeliwch chi’r wraig.
Peth arall fu’n fy mhoeni yr wythnos hon ydy methiant pobl i ddilyn y canllawiau i gadw 2 fedr oddi wrth rywun. Dydy rhai pobl ddim yn gwybod y gwahaniaeth rhwng 2 droedfedd a 2 fedr!
Ac i goroni’r cyfan, mae yna rai fel petaen nhw yn dod yn nes atoch gyda phob cam, yn union fel rydwi’n rhoi fy nhroed ar y sbardun pan rydwi’m gweld y fan Dyna Ddigon.
Oes yna lygedyn o obaith ar derfyn wythnos mor ddigalon? Oes, mae’r ystadegau yn awgrymu hynny, ac y mae sȏn am godi’r gwaharddiadau yn dechrau dod o sawl cyfeiriad bellach.
Y dyddiau hyn rydwi’n aml yn effro pan fo’r wawr yn torri, ac rydwi wedi gweld yr haul yn codi dros fryniau Clwyd.
Wythnos 8 – nos Wener
Wel, dyna Ŵyl Y Banc arall drosodd. Diwrnod sydd i fod yn ddathliad o’r Ŵyl Lafur wedi’i droi eleni er mwyn cofio diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop 75 mlynedd yn ôl.
Trueni bod rhai pobl wedi troi’r diwrnod yn ddathliad yn hytrach na choffâd gan fynd dros ben llestri gyda’u partïon a’u cyfeddach.
Trist oedd gweld a chlywed am rai’n anwybyddu’r cyfarwyddiadau ynglŷn ag ymbellhau cymdeithasol gan ffurfio conga yn y strydoedd.
Tristach fyth oedd clywed am rai yn chwil gaib ac wedi gorfod mynd i’r Uned Ddamweiniau o ganlyniad i gwympiadau.
Doedd y ffyliaid ddim yn sylweddoli’u bod nhw’n rhoi’r holl broses o gyfyngu ar ledaeniad y coronafeirws mewn perygl drwy’u ffolineb. Efallai y dylwn dd’eud nad oedd ots gan y cofidiots hunanol.
Roedd rhywun yn deall i’r dim pam fod y meddygon yn defnyddio iaith flodeuog ac yn d’eud wrthyn nhw am beidio â chymeradwyo gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd nos Iau nesaf. Rhagrith fyddai’r cyfan, medden nhw.
Diddorol ydy gweld bod Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn dechrau dangos nad ydyn nhw am gowtowio i’r llywodraeth Brydeinig.
Y nhw sydd yn gwybod beth sydd orau i’w gwledydd, nid y Daily Mail. Y nhw sydd yn gwybod pryd i lacio’r gafael ar bibell wynt eu cenedl, nid y Sun.
Ac o sôn am newyddiadurwyr, ydyn nhw ddim yn sylweddoli’u bod nhw’n gofyn cwestiynau hirwyntog sy’n rhoi cyfle i’r gwleidyddion ateb yr un mor hirwyntog?
Draw yng Ngogledd Ewrop mae gwestai yn agor eu drysau i groesawu ymwelwyr ar ôl bod dan glo. Draw yn Nwyrain Ewrop mae gwledydd tlodaidd – a fu’n destun gwawd gennym ni ym Mhrydain - wedi llwyddo i oresgyn y pla.
A dyma ni- mewn brwydr waeth nag unrhyw frwydr yn ystod yr Ail Ryfel Byd – yn colli tir a bywydau yn ddyddiol, a hynny am na wnaethom ni weithredu’n ddigon buan ac yn ddigon cadarn.
Wythnos 9 - nos Wener
Wel, dyma ni gymysgfa! Mae llywodraeth Prydain wedi’n taflu ni i ganol dryswch ofnadwy drwy godi gwaharddiadau yn Lloegr tra bo cyfyngiadau’r tair llywodraeth arall yn parhau.
Caniatâd yn Lloegr i deithio i b’le mynnwch o fewn y wlad, a‘r Saeson, mae’n debyg, yn dehongli hynny fel unrhyw le ym Mhrydain. Diolch i’r drefn fod ein llywodraeth ni yma yng Nghymru wedi dal eu tir, ac o ganlyniad bu’n rhaid i San Steffan ddweud mai o fewn Lloegr yn unig mae’r caniatâd yn bodoli.
Rwy’n siwr na fydd trigolion ardaloedd fel Ardaloedd y Llynnoedd, Cernyw a Stratford yn hapus gyda datganiad Boris Johnson. Dydyn nhw ddim am weld pobl o’r dinasoedd mawrion yn heidio i’w hardaloedd nhw â’r feirws ymhell bell o fod wedi gostwng.
Mae Boris am weld ysgolion yn Lloegr yn dechrau ail-agor eu drysau o Fehefin 1af ymlaen, penderfyniad nad ydy’r athrawon yn hapus ag o gan eu bod nhw eisiau sicrwydd ynglŷn â diogelwch y fath sefyllfa.
Trist ydy deall fod yna bobl ar wefannau cymdeithasol yn ymosod ar athrawon gan eu cyhuddo o fod yn ddiog – “shirkers” ydy’r gair a ddefnyddiwyd.
Diolch i drefn fod yna gynghorau yn Lerpwl a Hartlepool yn fodlon cefnogi safbwynt yr athrawon gan hefyd ymboeni am ddiogelwch pawb yn y fath sefyllfa.
Wedi’r cyfan, sut ydach chi’n d’eud wrth blant ifainc - heb sôn am rai hŷn - am ymbellhau oddi wrth ei gilydd? Beth am y truan bach sydd angen cysur am fod y plant eraill heb ei gynnwys yn eu chwarae?
Yng Nghymru, er bod hi’n anodd derbyn y penderfyniad, rydym ni’n dal o dan cyfyngiadau llym. Diolch i drefn am hynny gyda rhybuddion am ail don o’r haint yn ein taro.
Ac yn ôl pob sôn, dydan ni ddim wedi cyrraedd y copa cyntaf yma yng Ngogledd Cymru.
Wel, bron imi anghofio, mi gawn ni fynd i’r ganolfan arddio neu chwarae golff gyda ffrind, a hyd yn oed wneud ychydig o ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd.
Dyna i chi haelioni!
Mae bywyd yn anodd o dan y fath oruchwyliaeth, ac y mae clywed darlledwyr yn dweud y bydd yn rhaid inni fyw gyda chyfyngiadau am flynyddoedd yn digalonni rhywun.
Ond, y mae yna si y caiff rhai o’r rhwystrau eu codi ymhen pythefnos.
Wythnos 10 – nos Wener
Y mae yna ddywediad amharchus yn Saesneg am ystadegau, a bellach dydwi ddim yn gwybod pa ystadegau i’w credu.
O fewn yr un prynhawn fe gawn ni ystadegau amrywiol am farwolaethau ac achosion o’r pla, a hynny heb esboniad derbyniol o gwbl, ac yn aml iawn mae’r graffiau yn gwbl aneglur os nad oes gennych chi deledu maint sgrîn sinema.
Owain Clarke, gohebydd BBC Cymru, gyflwynodd y graffiau gorau rydwi wedi’i weld hyd yma gan hefyd roi cyflwyniad a oedd yn gwbl ddealladwy i unrhyw un oedd yn gwylio.
Wel, mae Boris wedi’i gwneud hi unwaith eto. Trigolion Lloegr yn manteisio ar y rhyddid i deithio o’u cartrefi i fynd am dro gan deithio cannoedd o filltiroedd i Gernyw a Dyfnaint ymysg lleoedd eraill.
Dydyn nhw ddim i fod i aros dros nos mewn unrhyw fan, ond does neb am wrando ar gyfarwyddyd felly.
Wel, cafodd rhai o’r campafanwyr hynny dipyn o sioc drannoeth pan gawsant eu codi ar doriad gwawr gan yr heddlu a’u hanfon tua thref.
O leiaf yn eu degau yn unig yn hytrach y daethon nhw i Gymru.
Diddorol oedd gweld erthygl yn yr Evening Standard yn d’eud fod Boris wedi rhoi caniatâd i’r ” Brits “ deithio i unrhyw le yn y wlad.
Os nad ydy newyddiadurwyr yn gwybod am ddatganoli a’u ganlyniadau pa obaith sydd yna i’r person cyffredin yn Peckham!
O leiaf mae Mark Drakeford - neu Mike Drakeford fel y galwyd ef gan Sky News – yn fwy pwyllog ac am aros ychydig ddyddiau yn rhagor cyn codi unrhyw waharddiadau pellach.
Mae’r ffaith fod yna gynnydd yn yr achosion yma yng Ngogledd Cymru yn ystod y dyddiau diwethaf yn frawychus braidd.
Mae’r Nippy Sweetie (a adwaenir hefyd fel Nicola Sturgeon) yn yr Alban hefyd yn bwyllog gan dd’eud nad ydy’ hi’n anelu am boblogrwydd.
Ond y Gwyddelod sydd wedi cymryd y cam y mae’r rhan fwyaf ohonom yn dyheu amdano yng Ngwalia Wen – rhyddid i gymdeithasu ag aelodau eraill o’r teulu.
Rhyfedd meddwl am wlad sydd mor geidwadol ar lawer ystyr yn cymryd cam mor flaengar.
Heno mae’r stori am Dominic Cummings, ymgynghorydd Boris Johnson, newydd dorri. Pawb ohonom i fod i aros gartref yn ystod y cloi mawr, ac yntau a’i deulu ar yr un pryd yn teithio dros 250 o filltiroedd i Ogledd Ddwyrain Lloegr oherwydd yr haint.
Beth ddaw o’r sgandal hon, ysgwn i?
Stan Lyall
