Y Bigwn

rhwyd dros fresych ifanc a pelets gwenwyn slygiau o dan soseri

Amddiffyn planhigion ifainc

Yr adeg yma o’r flwyddyn byddwch yn trawsblannu planhigion ifanc o’r tŷ gwydr i mewn i’ch gardd. Mae’n bwysig iawn eich bod yn amddiffyn y planhigion ifanc rhag pla fel slygiau, brain a cholomennod. Yn y llun yma rwyf wedi rhoi rhwyd dros fresych ifanc a rhoi pelets gwenwyn slygiau o dan soseri.

 

planhigyn courgettes ifanc

Planhigyn Courrgette ifanc

Mae hi’n gyfle olaf i hau courgettes, marrow a ciwcymber y mis yma.  Mae dau blanhigyn courgettes yn ddigon i fwydo teulu o 4 trwy gydol yr haf heb i chi orfod prynu rhai o ‘r archfarchnad.

 

planhigyn ffa

Ffa

Mae’r ffa yn dechrau blodeuo, gyda chnwd cyntaf y flwyddyn i ddod erbyn canol mis Gorffennaf. Dwi’n ffeindio ei bod hi’n well plannu'r rhain yn agos at eu gilydd mewn clwstwr gan eu bod nhw yn dal eu hunain i fyny yn well. O ganlyniad mae llai o chwyn yn tyfu oddi tanynt, syn arwain at lai o waith chwynnu i’r garddwr.

 

Tatws newydd yn dechrau dangos trwodd

Tatws newydd 

Tatws newydd yn dechrau dangos trwodd. Plannwyd y rhain ar ddechrau  mis Ebrill. Codais bridd dros ei gwreiddiau, mae hyn yn sicrhau fod chi’n cal lai o datws gwyrdd ac mae’r cnwd dipyn gwell.

 

planhigion garlleg yn barod

Garlleg yn barod

Mae’r garlleg bron yn barod i’w casglu. Unwaith mae’r dail yn troi’n felyn mae’n adeg cynhaeafu. Edrychwch ar y dail, os mae saith deilen, mae hyn yn dangos fod y bwlb wedi ffurfio yn dda ac mae saith haenen o groen o amgylch y bwlb.

 

tomatos mewn bagiau tyfu

Tomatos mewn bag tyfu

Os nad oes gennych blanhigion tomatos ifanc yn tyfu yn barod, fyswn ni yn argymell chi i brynu rhai yn eich canolfan arddio lleol. Trawsblannwch nhw mewn i fagiau tyfu, ac fe gewch domatos ffres ar gyfer mis Awst hyd at fis Hydref. Amhosib curo blas tomatos yn syth oddi ar y planhigyn sydd wedi cochi yn yr haul.

 

Planhigion Blodfresych

Planhigion Blodfresych

Planhigion Corn

Planhigion Corn

Trawsblannwch unrhyw blanhigion ifanc allan i’r ardd y mis yma fel y planhigion ifanc blodfresych a corn melyn a welir yn y lluniau.

 

 

Teulu’r Aliwms

aliwms amrywiol

 

Rwyf yn mwynhau tyfu planhigion o deulu’r Aliwms (Nionod). Mae’r teulu yma yn cynnwys planhigion fel garlleg, cennin, sialóts, nionod gwyrdd/ gwanwyn, ac wrth gwrs nionod coch a gwyn. Mae manteision i’w tyfu yn cynnwys y canlynol.

  1. Maent yn hawdd i dyfu, ac yn blanhigyn sy’n berffaith i dyfu mewn gardd fach gan nad oes angen lot o le arnynt.
  2. Mae nhw'n gwrthsefyll afiechydon yn dda iawn, a prin yn methu unwaith maent wedi plannu yn y pridd.
  3. Mae rhai mathau yn storio yn dda iawn, hyd at 9 mis, yn bennaf garlleg a nionod.
  4. Mae’n bosib cael cyflenwad o gnwd trwy gydol y flwyddyn o nionod yn dibynnu ar y math a dyfir.
  5. Mantais arall o dyfu nionod yw bod mwy nag un ffordd bosib i’w hau, un ffordd yw trwy hadau, ag yn ail drwy blannu bylbiau ifanc. Gellir casglu'r hadau o flodyn neu storio bylbiau oddi ar y nionyn i hau'r flwyddyn olynol. Mae nionod gwyrdd yn enghraifft wych o hyn, cadwch y bwlb yn y pridd ac mi rannir y bwlb yn fylbiau llai.

 

tynnu rhai bylbiau sialóts allan o’r clwstwr

Yn y llun uchod rwyf yn tynnu rhai o fylbiau sialóts ifanc allan o’r clwstwr, bydd hyn yn caniatáu i weddill y bylbiau dyfu yn gryfach a sicrhau cnwd gwell o sialóts.

tynnu croen allanol sialóts

Tynnwch y croen allanol i ffwrdd cyn eu glanhau o dan ddŵr.

pigo sialóts yn ifainc

Gellir pigo sialóts neu nionod ifanc fel hyn a’i defnyddio nhw mewn salad yn debyg i nionyn gwyrdd. Mae ganddyn nhw flas mwy ysgafn a melys pan mae nhw’r maint yma.