
Anti Hilda a fi
Ar fy nhaith foreol ddoe roeddwn i wedi mynd â fy mheiriant recordio efo fi. Mae gymaint o adar yn canu yn yr awr cyn y wawr ac mae’n gyfle da i recordio cyn i’r holl geir ddechrau lenwi’r ffyrdd. Meddyliais mai dim ond pwyso’r botwm oedd rhaid ond nad oeddwn wedi gosod y lefelau, felly doedd dim un o’r lleisiau melys wedi cael ei ddal. Er mwyn paratoi am gael ail gyfle nes i eistedd yn yr ardd i baratoi’r peiriant er mwyn gwneud ail ymdrech heddiw. Doedd dim llawer o adar yn canu ar y pryd ond digon i mi wneud yn siŵr bod popeth wedi cael ei osod yn iawn. Wrth bwyso’r botwm i wrando ar y canlyniadau, nid yr adar oedd yn canu ond Anti Hilda yn siarad! Tair blynedd ynghynt roeddwn i wedi mynd i’r gogledd yn y campyrfan ac yn ystod yr ymweliad wedi galw i weld Anti Hilda efo Gwylan, fy nghyfnither. Heblaw am y pleser o weld Anti Hilda roedden ni’n gobeithio recordio sgwrs.
Nes i osod y meicroffon ar y bwrdd, pwyso’r botwm a ffwrdd â ni. Siaradon ni am seiclo a hithau’n sôn am yr amser wnaeth hi ac Anti May, a oedd yn hŷn na hi, seiclo o Ddolgellau'r holl ffordd i Gymoedd y De. Aros mewn Youth Hostels oedden nhw. Roedd Anti May yn hŷn ac yn gryfach ond mi roedd hi’n aros ar ben yr elltydd er mwyn i Anti Hilda dal i fyny, ond wedyn mynd ymlaen yn syth ar ei thaith! Doedd Anti Hilda ddim yn cael cyfle i gael ei gwynt yn ôl! Aeth tair o’r chwiorydd i seiclo yn ardal Lleyn hefyd. Dyna le oedden nhw’n edmygu harddwch y wlad o’u cwmpas ac un yn codi ei braich i dynnu sylw at safle’r ysgol bomio. Collodd ei chydbwysedd a syrthio yn erbyn y chwaer ar y chwith, hithau’n taro'r drydedd chwaer a’r tair yn glanio yn un pentwr ar y llawr. A pham bod rhaid mynd mor bell dim ond i chwarae dominos dwedwch? Wrth gwrs doedd y ffyrdd ddim mor brysur ag heddiw ond sut oedd eu cyflwr? Gyda llaw roedd wyth chwaer, druan o Taid ynte!

Y Fronfraith
Wrth i mi eistedd yn yr ardd yn gwrando ar hyn sylwais ar fronfraith yn crwydro o dan y coed afalau, mae’r adar yn hoff iawn o’r darn yna - llawer o fwyd blasus! Roedd hi’n hapus ei fyd yn chwilota a phob hyn a hyn yn aros i syllu arnaf. Y ddau ohonom yn fodlon iawn i rannu’r ardd.
Gofynnodd Gwylan i’w mam a oedd hi’n cofio’r amser aethon nhw i aros yn Stratford a mynd i theatr yr RSC. Oedd mi oedd. A oedd hi’n cofio mynd i’r theatr arall ‘The Other Place’ i weld y ddrama Gardd Eden? gofynnodd Gwylan. Oedd mi oedd a wnaeth hi ychwanegu efo cyffro “and they were all nude!” Dim ond ar y llwyfan wrth gwrs, roedd y gynulleidfa yn gymharol barchus. Wedi i mi glywed hi’n dweud hyn syrthiodd y recorder oddi ar fy nglin a throi ei hun i ffwrdd. Codais fy mhen i weld y fronfraith yn heglu hi o’na efo’i hadenydd yn dynn dros ei chlustiau mewn syndod.
Does dim ffordd i wneud ‘fast forward’ ar y recorder ac roedd hyn wedi digwydd yn awr i mewn i’r sgwrs felly nad ydw i’n cofio mwy. Ond gan fod y straeon gorau i gyd yn gorffen efo ‘cliffhanger’ mi wna i adael popeth yn fanna.
Hwyl fawr i chi, a’ch dychymyg!
