Wythnos 31 – nos Wener
Dyma ni yn dechrau ar gyfnod clo byr a llym neu doriad tân fel y mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu’i alw bellach.
Hyd y cyfnod ydy’ pythefnos. Ydy’ hynny yn ddigon o amser i fynd i’r afael â’r clwy’?
Mae o’n ormod o gyfnod, medd rhai pobl. Ar ba sail maen nhw’n d’eud hynny? Wel, maen nhw wedi cael llond bol ar fywyd dan glo. Dyna’r eglurhad sydd ganddyn nhw. Tueddu i ofni nad ydy o’n ddigon o gyfnod ydw i. Byddai cyfnod o dair wythnos yn cydfynd â’r hyn ddywedwyd wrthym ni yn ȏl ym mis Mawrth.
Diddorol ydy’r term toriad tân. Mae’n f’atgoffa o’r hyn fyddai mam yn ei wneud ers talwm pan oedd yn rhaid inni bicio allan o’r tŷ am awr neu ddwy. Fe fyddai hi’n rhoi rhawiad neu ddwy o lo mân i fygu’r tân tra byddem ni allan. Ar ȏl dod adref doedd ond rhaid gwthio procer yn y glo mân ac roedd fflam gref yn ymddangos.
Ai dyna ydym ni’n wneud gyda’r clo byr? Mygu’r clwy’ dros gyfnod byr yn unig, a hwnnw wedyn yn ffrwydro’n fflam gref ar ȏl inni godi’r cyfyngiadau. Trafodaeth ddifyr ar hyn o bryd ar beth sydd yn siopa hanfodol gyda Llywodraeth Cymru yn rhwystro archfarchnadoedd rhag gwerthu rhai nwyddau a ellir eu prynu yn y siopau bach sydd dan glo. Rhai yn gwrthwynebu hyn yn chwyrn. Methu â phrynu llyfrau a dillad babi a phlant, medden nhw. Wyddwn i ddim fod yna bobl yn awchu cymaint am lyfrau neu am brynu dillad newydd i’w plant ar fyrder. Wedi’r cyfan dim ond pythefnos ydy’ hyd y cyfnod clo. Teimlo ydw i fod yna bobl tu ȏl i’r protestiadau hyn sydd yn gwthio’u syniadau eithafol hwy drwy gyfrwng pobl gyffredin.
Cawn weld yn fuan iawn, mae’n debyg, rym y gwrthwynebiadau i gynlluniau sydd yn ymddangos yn gwbl deg o ran egwyddor a gweithred.
Wythnos 32 – nos Wener
Dyna wythnos gyntaf y clo byr ond llym ar ben. A fu hi’n wythnos galed? Mewn un gair – do. Tywallt y glaw yn gymysg â gwyntoedd cryfion ar adegau, a hithau yn hanner tymor. Ni ellid fod wedi cael gwaeth tywydd ar gyfer cychwyn y cyfnod hwn dan glo. Wnes i ddim mentro allan o’r tŷ fwy na dwywaith, ac roedd un o’r troeon hynny ar gyfer apwyntiad.
Dal i gynyddu y mae nifer yr achosion a’r marwolaethau yma yng Nghymru ac yng ngwledydd eraill Prydain, ac y mae yna sȏn y bydd Lloegr yn mynd dan glo cenedlaethol yr wythnos nesaf.
Ai fel hyn y bydd hi arnom ni am fisoedd neu hyd yn oed flynyddoedd – i mewn ac allan o gaethiwed?
Wythnos gyntaf ar ȏl inni droi’r cloc yn ȏl a pharatoi ar gyfer y gaeaf. A fydd hwn yn aeaf tywyllach nag a welodd y mwyafrif ohonom erioed? Sut Nadolig gawn ni?
Mae’n ddrwg gen i fod yn gymaint o besimist.
Wythnos 33 – nos Wener
Gwell hwyliau yr wythnos hon am dri rheswm. Bu’r tywydd yn well – llai o law ac yn gynhesach – ymwybodol fod diwedd y cyfnod clo yma yng Nghymru yn dod i ben nos Sul, a’r hen Donald yn cael cweir ochr draw i’r pwll chwiaid.
Wel, yn ȏl yr hyn ddywed o, dydy o ddim wedi colli’r frwydr. Mae yna dwyll wedi bod. Mae’r Democratiaid wedi dwyn y bleidlais. Ac yntau yn Arlywydd er 2016, pam na wnaeth o geisio diwygio’r sustem os oedd yna annhegwch yn bodoli? Pam, ar wyneb y ddaear, nad oedd raid i bob pleidlais drwy’r post fod yn nwylo’r archwilwyr erbyn bore’r pleidleisio?
Dim ond gofyn rydwi.
Mae’r hen Donald yn f’atgoffa i o’r bachgen hwnnw yn yr ysgol gynradd a oedd am fynd â’i bêl adref os nad oedd o’n cael cymryd pob cic gosb a chael bod yn gapten ar ei dîm.
Gan ddychwelyd at Gymru, diddorol fydd gweld y cyfyngiadau llym yn dod i ben yr ochr yma i Glawdd Offa ychydig ddyddiau ar ȏl i Loegr gyfan fynd i gyfnod o fis o gyfyngiadau.
Rhyfedd clywed pobl yn dweud y dylai’r un rheolau fodoli ar draws Cymru a Lloegr. Dylai, yn bendant dylai, gyda Lloegr wedi dilyn yr un patrwm â Chymru ac ar yr un adeg â Chymru. Y nhw wnaeth wrthod derbyn cyngor y gwyddonwyr, nid Cymru.
Fydd y cyfnod clo yn llwyddiannus? Wel, does ond gobeithio na fu pobl mor wirion â’r ffyliaid dwl a welsom yn Wrecsam a Merthyr yn sefyll yn dyrfa ger coelcerth noson Guto Ffowc gyda rhai ohonyn nhw’n garedig iawn yn pledu gyda thân gwyllt y gwasanaethau brys a alwyd at y digwyddiad.
Wythnos 34 – Nos Wener
Arholiadau allanol! Bwgan pob disgybl ysgol. Wel, os wnaethoch chi wrando ar fwletinau newyddion ar radio neu deledu yr wythnos hon cawsoch wybod na fydd yna unrhyw arholiadau Lefel A, AS na TGAU yr haf nesaf.
Haleliwia, meddai pawb ym myd addysg. Dyma derfyn ar yr ansicrwydd a oedd yn codi’r felan arnyn nhw i gyd, yn bobl ifainc ac athrawon.
Ond, yna, dyma’r hen Kirsty, ein Gweinidog Addysg ni yma yng Nghymru, yn ceisio esbonio’r hyn a fyddai yn lle arholiadau. Byddai yna gyfres o dasgau neu brofion wedi’u gosod gan rywun allanol yn cael eu cynnal o ail hanner Tymor y Pasg ymlaen. Mewn geiriau eraill, arholiadau.
Does wybod sut fydd y fath gyfundrefn yn sicrhau tegwch i bob disgybl. Beth pe bai disgyblion wedi gorfod ynysu ar y diwrnod y cynhelir y prawf neu wedi gorfod aros gartref o’r ysgol pan wnaethpwyd yr agwedd honno o’r gwaith?
Mae gan athrawon lu o gwestiynau yr hoffen nhw atebion iddyn nhw, a hynny yn fuan iawn. Mewn geiriau eraill o leiaf cyn diwedd y tymor hwn.
Daeth y cyfnod clo byr i ben yma yng Nghymru, a chawn ychydig mwy o ryddid bellach. Ia, rhyddid doeth nid pen rhyddid ddylai fod y llwybr a droediwn o hyn hyd y Nadolig.
Gyda newyddion ardderchog am frechlyn yn y gwanwyn, gofal biau hi.
Wythnos 35 – Nos Wener
Daeth mwy o newyddion da am frechlyn yr wythnos hon – ail frechlyn neu ail gȏl fel y galwodd un swyddog meddygol y digwyddiad.
Pwy fydd yn derbyn y brechlyn gyntaf a pha mor gynnar y bydd hyn yn digwydd. Dyna’r ddau gwestiwn a drafodir yng ngwledydd Prydain.
Ond llawer pwysicach ydy’ ystyried tegwch yn y sgarmes am frechlyn ar raddfa bydeang. Ai’r gwledydd cyfoethocaf a fydd yn cael y blaen ar bawb arall?
Llawer o sȏn hefyd yr wythnos hon am godi’r gwaharddiadau yn ystod cyfnod y Nadolig er mwyn caniatáu i deuluoedd allu dod ynghyd. Teimlad yn bodoli bydd pobl yn torri’r rheolau os na chaniateir hynny.
Un undeb athrawon yn awgrymu i Lywodraeth Cymru y dylid cau ysgolion wythnos ynghynt er mwyn diogelu disgyblion a phawb sydd yn gweithio mewn sefydliadau o’r fath. Syniad call iawn, ond a fu’r undeb braidd yn ddiweddar gyda’r cynnig hwn?
