Y Bigwn

Clywais ambell un yn dweud y byddai’n well gadael i’r cynllun newydd i reoli traffig yn y dref hon fynd yn ei flaen i’w brofi am gyfnod i gael gweld os oedd yna fanteision i’r cynllun oedd yn gryfach na’r anfanteision.  Ond cwyno reit sydyn ddaeth a’r syniad i ben, a bellach mae yna gryn gwyno am gynllun newydd i strydoedd Rhuthun a hyn ar ôl i’r gwaith fynd yn ei flaen a bron iawn gael ei orffen.

Arlwy  dipyn yn llai sydd gennym i chi’r mis yma – go wahanol i’r papur ! swmpus y mis diwethaf.  Mae si yn y gwynt yn awgrymu efallai y byddwn yn dychwelyd at y Bigwn ar bapur cyn bo hir. Dyma ni’n agosáu at y Nadolig a llawer ohonom braidd yn bryderus am y trefniadau fydd ar ein cyfer dros yr Wyl – trefniadau sy’n rheoli’n bywydau i raddau pell y dyddiau hyn.  Credaf bod gennym Drefnydd da ar y cyfan yng nghymeriad Mark Drakeford ein Prif Weinidog.  Mae’n medru ymateb i’n sefyllfa ni yma yn y Gogledd gyda’r ymwelwyr oedd yn mynnu dod i’n gweld o Lerpwl dro yn ôl, yn ogystal a’i apêl cyson i bobol ifainc beidio a gwaethygu pethau ar y penwythnosau fel y gwelsom yn Llanberis ag ar draeth Ogwr yn y De.  Gobeithio, serch hynny y daw sefyllfa lle medrwn oll fwynhau’r Nadolig fwy neu lai fel o’r blaen.

Hoffwn ddymuno gwyliau dedwydd i bawb o ddarllenwyr y Bigwn.

Ceredig