Arbedion Ynni Mawr y Gaeaf
Mae Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yn helpu pobl i leihau eu biliau ynni ac arbed arian fel rhan o'r ymgyrch “Arbedion Ynni Mawr y Gaeaf”.
Gall ein cynghorwyr ynni ddarparu gwybodaeth a chyngor ar sut y gall pobl baratoi ar gyfer y gaeaf a sut i –
- Edrych i weld a ydynt yn gymwys i gael gostyngiadau, grantiau a chymorth
- Newid eu tariff neu gyflenwr ynni i gael y fargen orau ac
- Arbed arian drwy ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon.
Yn ddiweddar, cysylltodd Carys â ni i ofyn am gymorth gan ei bod yn cael trafferth i dalu ei biliau ynni. Roeddem yn gallu cysylltu â'i chyflenwr a gwneud cais llwyddiannus i Gronfa Ymddiriedolaeth y cyflenwr i helpu i leihau'r ddyled, ac am “Ostyngiad Cartref Cynnes” fel y bydd cyfrif ynni Carys yn cael ei gredydu â £140. Gwnaethom drafod telerau ad-dalu y gallai Carys ei fforddio bob mis. Yn ogystal, rydym yn rhoi cyngor i Carys ar sut i arbed ynni yn ei chartref i leihau ei biliau. Dywedodd Carys y gallai roi rhai o'r mesurau syml hyn ar waith yn hawdd, ond nid oedd wedi meddwl amdanynt cyn hyn. Pan fydd Carys yn barod i edrych ar newid ei chyflenwr mae'n mynd i gysylltu â ni am help gan nad yw'n ddigon hyderus i wneud hyn ar ei phen ei hun.
I gysylltu ag un o'n cynghorwyr ynni ffoniwch 01745 818087
I gael mwy o wybodaeth ar sut i Wirio, Newid ac Arbed eich biliau ynni, ewch i https://bigenergysavingwinter.org.uk/cy/ sy’n nodi:
Ymgyrch genedlaethol yw “Arbedion Ynni Mawr y Gaeaf” i'ch helpu i ostwng eich biliau ynni a chael yr holl gymorth ariannol y mae gennych chi hawl iddo. Mae gennym lawer o adnoddau a chyngor defnyddiol i'ch helpu i arbed arian wrth gadw'ch cartref yn gynnes drwy'r gaeaf hwn.
Mae biliau ynni yn boen meddwl mawr i lawer ohonom ni dros y gaeaf. Ond gallech chi arbed arian ar eich biliau drwy chwilio i wneud yn siŵr nad ydych chi’n talu mwy na’r angen ... a gallech chi leihau eich biliau heb orfod defnyddio llai o ynni.
Newidiwch eich tariff neu gyflenwr ynni a gallech chi arbed cannoedd o bunnoedd dros y gaeaf
Mae sawl ffordd o arbed ynni a lleihau’ch biliau ynni y gaeaf hwn. Mae pob cam bach yn arwain at arbediad mwy a bydd yn cadw’ch cartref yn gynnes a chlyd.


