Cynhwysion

Hufen, banana a syrup

Iogwrt a cheirios
350g o flawd codi
2 lwy de o powdr codi
¼ llwy de o sinamon
2 lwy fwrdd o siwgr man
2 ŵy
150g o laeth enwyn neu iogwrt
325ml o lefrith
Dull
- Rhowch yr holl gynhwysion mewn fowlen gymysgu a defnyddiwch chwisg trydan.
- Gadewch i’r cytew sefyll am ryw hanner awr.
- Rhowch ychdyig o fenyn yn y badell er mwyn atal y cytew rhag glynnu i’r badell. Coginiwch dros dymheredd canolig.
- Rhowch ychydig o’r gymysgedd yn y badell a gadewch i’r gymysgedd sefyll nes ei bod yn ffurfio pocedi o aer.
- Trowch y crempog drosodd a pharhewch i ail adrodd yr un broses gyda gweddill y gymysgedd.
- Fe allwch ychwanegu unrhyw math o ‘topings’ ar eich crempogau Americanaidd.
