Y Bigwn

Canabis meddygol

Ychydig iawn o bynciau sy’n rhannu barn pobl gymaint a chyfreithloni cyffuriau. Wel, gwleidyddiaeth yn gyffredinol efallai, a Brexit yn bendant, a chrefydd hefyd erbyn meddwl- dyma’r pynciau ‘dach chi’n eu hosgoi yn y dafarn os ydych chi eisiau osgoi cael eich cynnwys mewn dadlau tanbaid.

Ond mae canabis, mewn un ffurf neu’r llall, wedi bod yn cael ei ddefnyddio gan feddygon ers miloedd o flynyddoedd i helpu lliniaru symptomau cleifion. Y darlun sydd gan y rhan fwyaf ohonom ni o’r defnydd o’r cyffur hwn yn ôl yn y 60au yw cylch o bobl â gwalltiau hirion yn flodau drostynt yn pasio sigarét o un i’r llall nes eu bod yn teimlo fel un gyda natur! Hipis, eneidiau rhydd a chariad at bawb sy’n dod i’r meddwl. Ond mae canabis y dyddiau yma, yn enwedig y math o elwir yn ‘skunk’ a’i debyg, yn llawer iawn cryfach a mwy peryglus, a’i sgil effeithiau’n arw ac yn barhaol. Ond mae’r byd meddygol wedi lliniaru ei safbwynt ac wedi trwyddedu rhai mathau o’r cyffur, gan ganiatáu i feddygon eu rhoi ar bresgripsiwn, er mai ychydig iawn o gleifion fyddai’n bodloni’r amodau llym er mwyn eu cael. Ar hyn o bryd, yr unig gleifion fyddai’n bodloni’r amodau yw :

  • Plant ac oedolion sy’n dioddef o epilepsi difrifol ac anghyffredin nad yw’n ymateb i gyffuriau traddodiadol. Olew canabidiol (CBD) sy’n cael ei ddefnyddio, a gan nad yw’n cynnwys y cemegyn THC sy’n achosi’r anterth, nid yw’r claf yn debygol o gael ‘trip seicedelig’.
  • Oedolion sy’n dioddef o bwys a chyfog yn sgil effaith cemotherapi. Ond dim ond ar ôl rhoi cynnig ar bob cyffur a thriniaeth arall i liniaru’r effeithiau y byddai’r driniaeth canabidol yn cael ei chynnig. Mae’r cyffur yma’n dod mewn capsiwl. Gan fod cael gafael ar bresgripsiwn yn achosi cymaint o drafferth, y temtasiwn mawr i’w prynu cyflenwad eich hun. All ai ond dychmygu pa mor dorcalonnus ydi hwylio eich plentyn yn dioddef degau o ffitiau y diwrnod gan wybod y gallech chi eu lleddfu drwy ddefnyddio cyffur sydd ar gael, ond nad yw’n cael ei ystyried yn addas i’ch plentyn. Ei brynu fe fyddwn innau hefyd dan yr amgylchiadau, ond nawr mae yna broblem o ran sicrhau ei burdeb, ei gryfder a’i safon, yn enwedig os ydych chi’n ei brynu dros y we.

Yn ogystal a’r uchod, mae pobl sy’n dioddef poen cyson, a’r rhai sy’n dioddef o’r salwch MS, gyda’r symudiadau cyhyrol anfwriadol sy’n dod yn ei sgil, yn darganfod fod defnyddio’r cyffuriau yma o fudd mawr iddyn nhw. Yn dilyn cinio Sul diweddar yn ein hoff dafarn ( methu enwi’r lle, sori Hafina), cawsom sgwrs a dynes oedd yn yr un flwyddyn a mi yn yr ysgol ond sydd bellach wedi symud i ffwrdd i fyw. Wrth imi holi am ei hiechyd, mi aeth i’w phoced a thynnu potel fechan o olew CBD allan yn gyfrinachol. Roedd hi’n grediniol y byddai’n rhaid iddi dreulio oriau yn ei gwely bob diwrnod heblaw am y rhyddhad rhag blinder roedd y botel fach hon yn ei roi iddi. Gweinidog ydi hi yn ôl galwedigaeth!

Fel y gallwch ei ddychmygu gyda chyffur o’r math yma, mae sgil effeithiau eithaf llym yn gysylltiedig a’i ddefnydd. Dyma rai enghraifft;

  • Seicosis, a all arwain at sgitsoffrenia
  • Dibyniaeth ar y cyffur
  • Pendro a blinder
  • Teimlo’n wael
  • Newidiadau mewn tymer ac ymddygiad
  • Teimladau hunanddinistriol
  • Rhithweledigaethau
  • Effaith ar gyffuriau eraill

Waeth beth fo’ch barn chi am y cyffur hwn, rhaid ystyried mater bach y gyfraith. Y ffaith amdani yw nad oes gan y Llywodraeth unrhyw fwriad cyfreithloni’r defnydd o ganabis er adloniant, felly mae meddu arno heb bresgripsiwn yn anghyfreithlon, p’un ai ydi o at ddefnydd meddygol ai peidio.

(Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Emyr Wynne Evans ar ran Fferyllwyr Llŷn. Diolch am ei ganiatâd.)