Mae’n bosib eich bod wedi cael tabled neu ffôn yn anrheg gan Sion Corn! Ag os ydi’r teclyn dal yn ei focs ers ‘Dolig yn hel llwch, beth am fynd amdani a dechrau ei ddefnyddio? Mae yna gant a mil y gallwch ei gwneud hefo nhw wrth gwrs ond dwi am drafod adnoddau hanes ar y We yn y golofn tro yma, esgus da i dreulio oriau yn chwilota am bethau difyr a diddorol o’ch soffa dros yr Wŷl.
Dwi'n siwr fod llawer ohonoch yn ymwelwyr cyson a'ch archifdy, amgueddfa neu’r Llyfrgell Genedlaethol i chwilota mewn dogfennau hanes neu’n hel achau ond daeth hynny i stop i bob pwrpas gyda llawer o archifdai a llyfrgelloedd wedi cau dros y misoedd diwethaf.
O ganlyniad i’r prinder cyfleoedd yma, dwi am fwrw golwg dros yr adnoddau sydd ar gael yn lleol ac yn genedlaethol er mwyn ymchwilio ein hanes ar-lein. Ac yn sicr mae yna gryn dipyn i’ch cadw’n brysur.
I ddechrau wrth ein traed, ac yn lleol. Yn aml na pheidio, mae’r archifdy lleol yn fan cychwyn da i ddechrau i ganfod adnoddau ar y We. Er enghraifft yng Ngwynedd sef Archifdy Sir Gaernarfon, mae degau o luniau wedi eu digideiddio a’u catalogio, o bob tref a phentref. Mae’n gyfle da i hel atgofion a chyflwyno darnau bach o hanes i’ch teulu. Yn amlwg, fe fydd casgliad pob archifdy yn wahanol, gyda graddfa yr adnoddau sydd ar gael ar y We yn amrywio. Ond cofiwch glicio ar eich awdurdod lleol i weld sydd beth sydd ganddynt ar gael ar y We.
Yn genedlaethol, y man cyntaf i fynd ati i chwilio yw gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru a theipiwch yr enw yn Google.com neu deipiwch y canlynol ar dop y porwr: https://www.llyfrgell.cymru/
Mae’r adrannau sydd ar gael ar y We yn cynnwys Lleoedd Cymru sy’n cynnwys casgliad o fapiau Degwm Cymru (https://lleoedd.llyfrgell.cymru/). Gellir hefyd cael mynediad i Cylchgronau Cymru sy’n gasgliad o gyfnodolion Cymru o’r Traethodydd i’r Genhinen (https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/)
Gellir tyrchu trwy bapurau newydd Cymru hefyd o’r Western Mail i’r Goleuad a hynny o foethusrwydd eich cartref: (https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/)
Mae’r Bywgraffiadur Cymreig heb os yn adnodd gwych i ganfod hanes pobl o bwys sydd wedi cyfrannu’n sylweddol at hanes Cymru ac mae’r fersiwn ar-lein yn estyniad o’r beibl gwreiddiol hwnnw a fu’n arfer hawlio pob silff lyfrau ar aelwydydd Cymru. A’r fantais yw fod y Llyfrgell yn parhau i ychwanegu enwau ato https://bywgraffiadur.cymru/
Prosiect sy’n canolbwyntio’n benodol ar y Rhyfel Byd Cyntaf yw Cymru 1914 sydd dan adain y Llyfrgell Genedlaethol a thrwy’r casgliad, datgelir hanes cudd y Rhyfel Byd Cyntaf, gan ddangos sut y bu'r hanes yn effeithio ar fywyd, iaith a diwylliant yng Nghymru. (https://cymru1914.org/cy)
Sefydliad arall sy’n hanfodol ar gyfer eich ymchwil yw Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (https://rcahmw.gov.uk/ ) Mae yna ffilmiau 360 gradd ar gael i’w gwylio yn dangos hen dechnegau amaethyddol (https://cbhc.gov.uk/archwiliwch-eich-archifau-2020-technolegau-digidol-ym-maes-treftadaeth/). Fe geir hefyd miloedd o luniau yng Nghasgliad y Werin yn cynnwys ffotograffau Geoff Charles https://www.casgliadywerin.cymru/collections/1313441
Un adnodd gwerthfawr tu hwnt yw Coflein sy’n gatalog ar-lein anferth o archaeoleg, adeiladu a threftadaeth ddiwydiannol ac arforol Cymru. Mi fedrwch dreulio dyddiau yn chwilio am olion archeolegol yn eich ardal chi yma. (https://www.coflein.gov.uk/)
Os mai cestyll yw eich bryd, gellir lawrlwytho ap Cadw ar eich ffôn clyfar trwy’r adran App Store ar eich ffon Apple neu Play Store ar eich Android https://cadw.gov.wales/app neu ymweld â’r Wefan, ble ceir llwyth am gestyll Edward I a’n cestyll cynhenid https://cadw.llyw.cymru/
Cofiwch hefyd, gellir canfod casgliadau ar-lein ar wefan Amgueddfa Cymru yn https://amgueddfa.cymru/casgliadau/arlein/ Un wefan sy’n berffaith ar gyfer hel atgofion yw chwaraeydd y BFI neu’r British Films Institute lle gellir gwylio degau o ffilmiau archif dros y 90 mlynedd diwethaf o’ch ardal leol sy’n cynnwys clasur John Roberts Williams Yr Etifeddiaeth. https://player.bfi.org.uk/free Ag wrth gwrs, heb anghofio am www.youtube.com sy’n llawn fideos o’ch hardal leol.
Mwynhewch y pori, y gwylio a’r syrffio! A chofiwch wneud defnydd da o’r tabled neu’r ffôn hwnnw! Blwyddyn newydd dda!
