Y Bigwn

Wythnos 36 – nos Wener

Dyma wythnos pan fo pethau wedi mynd o’r chwith unwaith eto. Ar ȏl gweld nifer yr achosion a’r marwolaethau yn dod i lawr yn dilyn y cyfnod clo llym gwelwyd y gwrthwyneb yn ystod y dyddiau diwethaf ar hyd a lled Cymru.

Ydach chi’n cofio’r datganiadau am ysgolion gan Weinidogion Addysg y gwahanol lywodraethau yn ystod yr haf? Roedd ysgolion yn fannau perffaith ddiogel a doedd yna ddim achos dros gadw plant gartref oedd y gri.

Wel, gyfeillion annwyl, hoffech chi gadarnhau hynny yn awr neu ddatgan eich bod chi wedi bod yn siarad ar eich cyfer? Y mae’n bosib’ ymddiheuro, wyddoch chi. Gofynnwch am air o gyngor gan Priti Patel.

Wel, fydd yna ddim Monopoli ar fwrdd y gegin yn ein tŷ ni y Nadolig hwn, ond yn hytrach byddwn wedi hunan ynysu i wahanol ystafelloedd (gyda phob ffenestr a drws yn agored) er mwyn cynnal cwis. Dyna ddywed y gwyddonwyr di-enaid sydd yn cynghori llywodraeth San Steffan.

Hefyd cofiwch drefnu cyfarfod â’ch wyrion a’ch wyresau mewn rhyw gae yn yr awyr iach neu ar y we!!

Ymhellach cofiwch nad oes raid i chi ddathlu Gŵyl y Geni y tro hwn. Cewch ddigon o gyfleoedd eto yn y dyfodol.

Dyna gynghorion y bydd pawb yn sicr o’u dilyn!

Trueni nad ydy llywodraeth Cymru yn derbyn cyngor UCAC gan gau ysgolion a chaniatáu dysgu o bell yn ystod wythnos olaf y tymor. Swnio’n syniad doeth imi. Ond a wnaeth yr undeb ymgynghori a chael cefnogaeth yr undebau eraill i’r awgrym hwn?

Wythnos 37 – nos Wener

Dim Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Ninbych yn 2021. Mae hynny’n swyddogol rŵan er i’r mwyafrif ohonom wybod fod hynny yn anochel wrth weld gafael y pandemig yn dal yn dynn amdanom.

Anodd felly deall pobl yn d’eud eu bod nhw’n siomedig, a bod eu plant yn siomedig. Mae holl strwythur steddfota yn yr Urdd yn golygu misoedd ar fisoedd o baratoi manwl a thrylwyr.

Yn ystod Tymor yr Hydref a fu byddai ysgolion fel arfer wedi bod yn cynnal ymarferion o bob math ar gyfer corau a phartïon, gweithdai celf ac yn y blaen yn ogystal ag ymaelodi’u disgyblion. A hyn i gyd i’w drefnu o amgylch gala nofio a chystadlaethau chwaraeon y mudiad.

O fewn ychydig wythnosau ar ȏl dechrau Tymor y Gwanwyn, byddai hi’n ddiwrnod yr Eisteddfod Gylch a’r Eisteddfod Ddawns. Yna cyn diwedd y tymor byddai hi’n Eisteddfodau Sir Uwchradd a Chynradd, a’r gwaith celf a chrefft i’w feirniadu ar lefel cylch, sirol a chenedlaethol cyn y Pasg... heb sȏn am feirniadu’r gwaith llenyddol.

Hefyd byddai yna fater bach o ymarferion ar gyfer y sioe gynradd a’r sioe uwchradd a’r dawnsio yn y seremonïau ar y llwyfan cenedlaethol. Whiw!

Fedrwch chi ddim penderfynu yn ystod gwyliau Pasg, “O, rydan ni’n glir o’r cofid bellach. Beth am gynnal Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar ddiwedd Mai?”

Marathon nid râs gan metr ydy’r gweithgaredd hwn.

Ac o sȏn am y plant, faint ohonyn nhw sydd yn fwy siomedig am na chawson nhw gyfle i gynrychioli’u hysgol yn y gystadleuaeth 5 bob ochr eleni?

Mae’r Urdd wedi gwneud penderfyniad call, yn fy marn i, yn gohirio’r Eisteddfod tan 2022. Bydd, fe fydd yna Eisteddfod rithiol yn 2021 a fydd yn ddatblygiad cyffrous o’r hyn a wnaed ar fyr rybudd yn 2020.

Heno, mae pob tafarn yng Nghymru wedi gorfod rhoi gorau i weini diodydd meddwol ar ȏl chwech o’r gloch wrth i rwystrau newydd ar hyd a lled y wlad gael eu cyflwyno.

“Dwi’n wallgo’ am hynny a finna’n cael fy mhenblwydd yn ddeunaw heddiw,” meddai un ferch ifanc ar y newyddion. “Fedra i ddim cael diod rŵan.”

“Trist iawn. Very sad.” chwedl un o gymeriadau Wil Sam.

Tristach fyth ydy’ fod yr ystadegau yng Nghymru ar gynnydd. Does ond gobeithio bydd y brechu a ddechreuir arno ddydd Mawrth yn gyfrwng i roi taw ar y clwy’.

Diddorol ydy’ gweld rhai tafarnwyr yn arallgyfeirio yn sgîl y rhwystrau hyn. Mae un am gynnig brecwast i’w gwsmeriaid a chael stondin ffrwythau a llysiau tu allan i’w dafarn gan roi gwasanaeth i’w gymuned drwy’r dulliau hyn.

Dydy o ddim â’i ben yn ei blu, ond yn hytrach mae am ddangos ei fod yn ddyn busnes o’i gorun i’w sawdl.

 

Wythnos 38 – nos Wener

Wel am wythnos! Dechreuodd pethau mor galonogol gyda’r bwletinau newyddion i gyd yn llawn cyffro am ddyfodiad brechlyn i’n plith. Yn haeddiannol rhoddwyd y sylw i’r bobl gyntaf ym mhedair gwlad Prydain a dderbyniodd y pigiad. Dechrau’r diwedd ar yr haint, meddai un meddyg.

Ond bellach dyma ni yng Nghymru wedi suro popeth gyda chynnydd aruthrol yn y nifer o farwolaethau ac achosion cofid ers i’r clo byr ddod i ben.

Y canlyniad ydy’ bod pob ysgol uwchradd a choleg yn y wlad bellach yn dysgu ar-lein o ddydd Llun ymlaen hyd ddiwedd y tymor. Roedd hynny yn anochel ac yn benderfyniad doeth. Bellach made mwy a mwy o ysgolion cynradd yn dilyn yr un patrwm.

Yr hyn sydd yn rhyfeddol ydy’ na wnaeth Llywodraeth Cymru wneud y penderfyniad wythnos neu ddwy yn ȏl, ac y bu’n rhaid i’r undebau ddwyn perswâd arnyn nhw.

Wn i ddim sut y mae athrawon yn dygymod â’r fath bwysau. Fel llawer i gyn-athro arall mi rydwi’n hynod o falch nad ydw’ i’n dal yn y ffosydd. Fe wn na allwn ymdopi â’r fath sefyllfa. Fel y byddai’r hen Bobi Owen yn ei ddweud, “Dyn papur a phensil ydw i.”

Mae gan lawer o bobl bryderon am fis Ionawr ar ȏl holl rialtwch y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Sȏn hefyd y gallai cyfnod o glo llawn ddechrau ar Ragfyr 28ain. Allwn ni ddim ond gobeithio na wireddir yr ofnau hynny.

Roedd gwylio Mark Drakeford yn y gynhadledd i’r wasg heddiw yn brofiad syber tu hwnt.

Mewn rhyw ffordd bu’r trafodaethau munud olaf am Brexit yn fodd i ailgyfeirio’n sylw gan ddangos fod pethau heblaw cofid i’n poeni. A fydd cytundeb rhwng y ddwy ochr? Mae pethau’n edrych yn dywyll iawn ar hyn o bryd.

Stan Lyall