Wrth edrych yn ôl ar 2020, teg yw dweud ei fod wedi bod llawn newidiadau i bawb, ond i fyfyrwyr Cymraeg fel fy hun, roedd dechrau yn y brifysgol yn brofiad hollol wahanol i’r disgwyl.
Dechreuais astudio cwrs Therapi Galwedigaethol ym mhrifysgol Caerdydd yn mis Medi yn dilyn gorffen fy addysg yn chweched dosbarth Ysgol Glan Clwyd tair mis yn fuan oherwydd y pandemig. Yr amser gwaethaf o’r flwyddyn i mi oedd yr aros, dros gyfnod o bum mis i dderbyn canlyniadau i weld a oedd gen i le i astudio yn y brifysgol neu peidio.

Yn wahanol i’r arfer ble byddai myfyrwyr allan yn y ddinas yn cymdeithasu sawl noson o’r wythnos nes oriau man y bore, cawsom dymor o alwadau Microsoft Teams o’n stafelloedd yn y neuaddau preswyl a dim ond un waith hyd yn hyn y cefais gyfle i fynd ar y campws, a hynny yn ystod yr wythnos groesawu. Dwi’n deallt yn iawn eu bod nhw’n cadw ni i ffwrdd er mwyn sicrhau ein bod ni’n ddiogel, ond wrth astudio cwrs i fod yn weithiwr allweddol roeddwn ni’n disgwyl y byddwn ni’n cael blaenoriaeth yn hytrach na myfyrwyr sy’n astudio rhywbeth fwy academaidd.
Rwyf wedi trio fy ngorau i ddelio gyda’r system newydd o ddysgu yn gadarnhaol ond ar rhai adegau, roedd bod ar gyfrifiadur yn syllu ar y sgrin tra’n gwrando i ddarlithoedd am chwe awr y dydd yn gallu bod yn ‘draining’. Dwi’n ddiolchgar fy mod i wedi cwblhau llawer o waith grwp dros y wê yn ystod y tymor cyntaf gan mai dim ond gyda’r deg yn fy ngrŵp rwyf wedi gallu siarad â sy’n astudio fy nghwrs. Ers dechrau fy nghwrs, tydw i heb allu cyfarfod a neb tu allan i’r neuadd breswyl oherwydd y cyfyngiadau sydd wedi creu cymuned agos ond ynysig o fewn ein neuadd breswyl.
Er fy mod heb gael y cyfle i gymdeithasu fel yr hoffwn yn ystod fy nhymor cyntaf rwy’n falch o ddweud fy mod i yn hynod lwcus o gael byw mewn fflat gyda cystal bobl a hefyd bod fy nghariad ddim yn byw yn bell. Roeddwn i’n lwcus i allu gael ymlaen yn dda hefo fy ffrindiau yn y fflat oherwydd ar ôl tua tair wythnos o fod yn y brifysgol roedd rhaid i mi a pedwar arall hunan-ynysu am dros bythefnos. Profodd un yn fy fflat yn bositif ar ôl derbyn prawf prifysgol gan oedd rhaid iddi fynd i ddarlith ar y campws. Yn syth wedyn cafodd hi brawf positif GiG heb ddangos unrhyw symptomau.
Yn dilyn hyn i gyd roedden ni fel fflat wedi bod yn cymryd gofal ychwanegol i’r llefydd roeddwn ni’n mynd gan bod ambell i fflat ar ein llawr ni ac uwchben wedi profi’n bositif. Roedd yr amser yma yn frawychus wrth i ni gyd fod yn ymwybodol o ddifrifoldeb y sefyllfa, ac y gallai droi i fod llawer gwaeth. Ychydig o ddiwrnodau i fewn i’r cyfnod hunan ynysu dechreuodd un ohonom deimlo’n sâl hefo tymheredd uchel, felly penderfynu cael ‘home testing kit’. Dyma oedd yr unig opsiwn i ni gan nad oedd gennym fynediad i gar a doedd y safle ‘walk through testing center’ heb ei agor ar y pryd. Roedd rhaid i ni ddibynnu ar eraill i nôl ein post a mynd i bostio’r prawf.
Doedd yna ddim llawer o gymorth o gwbl i ni fel myfyrwyr a rwy’n ddiolchgar iawn i ffrindiau a fy chwaer am gadw’r cypyrddau bwyd yn llawn a sicrhau bod y golchi dillad yn cael ei wneud.
Aeth y pythefnos o hunan ynysu yn sydyn iawn i ddweud y gwir. Cawsom sawl noson gemau, coginio bwyd i’n gilydd, noson ffansi gyda pawb yn gwisgo’n smart! Heb anghofio am y cwrw ac ambell i ginsen. I ddweud y gwir, mae’r cyfnod hunan ynysu wedi rhoi cyfle i ni ddod i adnabod ein gilydd yn dda iawn ac wedi dod a ni’n agos iawn fel criw.

Un peth o fi’n gweld yn anodd iawn oedd gweithio a cysgu yn yr un stafell. Doedd dim modd mynd allan i’r ardd er mwyn cael ychydig o awyr iach fel yr oeddwn arfer gwneud adref yn ystod y cyfyngiadau gwreiddiol. Dwi erioed wedi ysu i fynd allan i redeg gymaint yn fy mywyd. Roedd yr amser o hunan ynysu wedi gwneud i mi werthfawrogi y rhyddid sydd gennym ni yng Nghymru i fynd allan am dro neu i redeg fel y mynnwn.
Ychydig o wythnosau yn dilyn ein cyfnod hunan ynysu lle roedd tri ohonom yn y fflat heb brofi symptomau cefais dymheredd uchel am dros 48 awr. Es i am brawf, i’r safle ‘walk in testing centre’ y tro yma. Hunan ynysom fel fflat unwaith eto tan i mi gael y canlyniad a oedd yn negyddol, diolch i Dduw. Doedd gen i ddim dymheredd erbyn yr amser cefais ganlyniad negatif felly doedd dim angen i ni hunan ynysu.
Mae profiad prifysgol wedi newid yn llwyr o’r neuaddau darlithoedd fawr i sgrin cyfrifiadur du lle mae camerâu pawb i ffwrdd. Mae’r sefyllfa cymdeithasu wedi bod yn anodd ac yn wahanol i’r arfer ond tydy ni fel myfyrwyr blwyddyn gyntaf ddim yn gwybod dim gwahanol hyd yn hyn. Yr arfer i ni ydi gwersi ar y we, mynd allan i’r dafarn fel grwp o bedwar, y siopau wedi cau a gwisgo mwgwd. Tydi hyn ddim yn fy effeithio nes ei fod yn parhau am flwyddyn academaidd arall, yn enwedig os dwi’n talu £9,000 arall i astudio o fy stafell ar gyfrifiadur.
Mae llawer o bobl wedi bod drwy amseroedd anodd yn 2020. Rhai wedi colli perthnasoedd. Rhai wedi colli swyddi a nifer fawr wedi bod ar ben eu hunain ac heb fod ar gallu i adael y tŷ, heb anghofio am y rhai sydd yn rhoi eu bywydau mewn risg o ddydd i ddydd i helpu eraill.

Dydi’r ffaith ein bod ni fel myfyrwyr ddim wedi gallu cymdeithasu a gwneud gymaint o ffrindiau newydd fel yr hoffwn ddim yn bwysig. Be sy’n bwysig ydi fod pawb yn cyd-weithio ac yn dilyn y rheolau i sicrhau nad oes mwy o bobl yn cael eu heintio gyda’r feirws.
Dwi am gymryd y cyfle i ddiolch i’r rhai sydd wedi bod yn gymorth i ni fel myfyrwyr, ond yn fwy pwysig i’r holl weithwyr allweddol sydd yn gyfrifol am gadw holl wasanaethau’r wlad yn gweithio er mwyn ein gwasanaethu ni.
Llinos Jones
