Y Bigwn

Ein bwriad ar hyn o bryd ydyw cynhyrchu’r Bigwn ar bapur ar gyfer rhifyn mis Chwefror.

Bu’n gyfnod hir er inni gynhyrchu’r rhifyn diwethaf ar bapur, ac yr ydym yn ddiolchgar iawn i chi am eich amynedd.

Yr ydym hefyd yn ddiolchgar iawn i Mr Dyfrig Berry am gynhyrchu’r Bigwn ar-lein inni dros y misoedd diwethaf. Bu’i gyfraniad yn amhrisiadwy. Byddwn yn dal i gyflwyno eitemau arbennig ar-lein o fewn ychydig wythnosau ar ȏl iddynt ymddangos ar bapur.

Hefyd diolch i’r golygyddion am lwyddo i gasglu cynifer o erthyglau difyr ar ein cyfer yn ystod cyfnod pan oedd hi’n llwm am newyddion. Diolch hefyd i bawb a fu mor barod i gyfrannu deunydd amrywiol a difyr, ac i’r teipyddion am eu llafur.

Yn yr un modd diolchwn i’n hysbysebwyr am aros gyda ni.

Os ydych chi wedi tanysgrifio ar gyfer y cyfnod 2020-2021, mae  gennym newyddion da i chi. Fel arwydd o’n gwerthfawrogiad  ein bwriad ydyw gohirio gofyn am gyfraniad gennych ar gyfer 2021-2022 tan ddiwedd yr haf.

Blwyddyn Newydd Dda ichi oll a hyderwn y bydd hi’n well blwyddyn o’r hanner i bob un ohonom na’r un a fu.