Cynhwysion
500g tomato wedi torri yn eu hanner
1 nionyn coch wedi ei dorri yn fan
6 tomato heulsych
Dŵr berw
Stoc llysiau
2 clof garlleg
1 pupur coch wedi ei dorri yn fan
Hufen sengl
Dull
- Cynheswch y popty i dymheredd o 180 ͦ c.
- Rhostiwch y 2 fath o domato, nionyn, garlleg a’r pupur ar din bobi gyda ychydig o olew olewydd, halen a pupur.
- Wedi i’r tomato goginio rhowch i mewn i sosban gyda dŵr a 1 ciwb o stoc llysiau.
- Fe allwch ychwanegu ychydig o jam chilli os ydych eisiau’r cawl yn fwy sbeislyd.
- Wedi i’r cawl ddod i ferw am 20 munud blendiwch y cawl nes ei fod yn esmwyth.
- Mae’n bwysig blasu’r cawl. Efallai bydd angen ychwanegu halen a phupur, llefrith neu ‘piwré’ tomato.
Cynhwysion
2 ffiled cyw iar
200g o fadarch
75 ml o hufen dwbl
Menyn hallt
Olew olewydd
Hanner nionyn
2 clof o garlleg
200g o Gnocchi
Dull
- Ychwanegwch ychydig o olew olewydd mewn padell ffrio a ffriwch y ddwy ffiled. Y mae’n bwysig rhoi digon o halen a phupur ar y cig.
- Mewn sosban, ychwanegwch dŵr berw a 200g o’r gnocchi. Unwaith y mae’r gnocchi wedi codi i arwyneb y dŵr y maent yn barod i’w ffrio.
- Defnyddiwch badell glan gyda nobyn o fenyn hallt ac ychydig o olew ac ychwanegwch y gnocchi nes ei bod yn euraidd a chreisionllyd.
- Y mae’n bywig troi y cyw iar er mwyn i’r ddwy ochr fod a chroen creisionllyd. Unwaith y mae’r cyw iar yn barod y mae’n bwysig gadael i’r cig orffwyso am 10 munud.
- Yn y cyfamser rydych angen coginio’r saws, Ychwanegwch hanner nionyn wedi ei dorri’r fan , 2 clof garlleg a’r madarch i sosban gyda nobyn bach o fenyn hallt.
- Gadewch i’r cynhwysion goginio nes eu bod yn euaridd mewn lliw, wedi hynny ychwanegwch yr hufen dwbl. Gadewch i’r saws fudferwi.
- Ychwanegwch bupur a halen i flasu.
- Fe allwch weini’r pryd gyda pys, asparagws neu brocoli.
Cynhwysion
2 llwy fwrdd o Cocoa
120g o siocled tywyll
120g o fenyn di hallt
2 wy a 2 melynwy
120g o siwgr man
1 llwy fwrdd o flawd plaen
Dull
- Cynheswch y popty i 200 ͦ c a rhowch y tin pobi yn y popty.
- Wedi i chi doddi ychydig o fenyn brwsiwch y menyn o amgylch 5 mowld pwdin, gorchuddiwch gyda coco er mwyn gwneud yn siŵr nad yw’r gymysgedd yn glynu i’r ymylon.
- Rhowch y menyn a’r siocled mewn bowlen dros ddŵr poeth er mwyn ei doddi. Gadewch iddo oeri. Cymysgwch yr wyau, melynwy, siwgr, gyda cymysgu trydan am 3-4 munud nes ei fod fel ‘mousse’ ac yn olau.
- Ychwanegwch y siocled a’r menyn i’r fowlen ac yna’r blawd. Cymysgwch yn ofalus.
- Rhowch y gymysgedd yn y mowldiau a’u rhoi yn yr oergell am awr.
- Rhowch y ffondant siocled ar yr tin pobi cynnes sydd wedi ei gynhesu. Coginiwch am 12-14 munud.
- Tynnwch y ffondant allan o’r popty, a gadewch iddyn nhw sefyll am 30 eiliad cyn ei thynnu allan o’r mowldiau.
