Categoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg
Annwyl oll
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ddogfen ganllaw sydd a’r nod o:
- gyflwyno trefniadau newydd ar gyfer categoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr ysgol
- darparu fframwaith cenedlaethol clir a chyson ar gyfer categoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg
- cefnogi awdurdodau lleol ac ysgolion i gyfathrebu i rieni/gofalwyr y mathau o ysgolion a darpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael
Mae’r ymgynghoriad yma yn berthnasol i bob ysgol a daw i ben ar y 21 Mawrth 2021.
Gallwch ddod o hyd i’r ymgynghoriad ynghyd a gwybodaeth ynglŷn a sut i ymateb gan ddilyn y ddolen isod.
Carwyn Edwards
Swyddog Moderneiddio Addysg
Gwasanaethau Addysg a Phlant
Cyngor Sir Ddinbych
01824 712043
07775 110989
