Y Bigwn

Logo Cronfa Glyndŵr

Datganiad i’r WasgChwefror 22ain 2021

Mae Cronfa Glyndŵr yr ysgolion Cymraeg wedi lansio apêl ariannol. Gwaith yr ymddiriedolaeth hon, a sefydlwyd yn 1963, yw dosbarthu grantiau i gyclhoedd meithrin, ysgolion ac unrhyw fudiadau eraill sy’n hyrwyddo addysg Gymraeg. Yn bennaf, dyfernir grantiau ar gyfer adnoddau, gwaith hyrwyddo a darparu cyfleoedd i gyfoethogi profiad plant a phobl ifanc o’r Gymraeg.

Yn sgil pandemig COVID-19, y mae’r Gronfa wedi cyrraedd croesffordd lle mae cyfanswm y ceisiadau yn fwy na’r incwm mae’r Gronfa yn ei chodi yn flynyddol. Bu’n flwyddyn anodd iawn i gylchoedd meithrin ac ysgolion ac mae hynny wedi’i adlewyrchu yn y ceisiadau y mae’r Gronfa wedi’u derbyn.

Dywed Cadeirydd y Gronfa, Catrin Stevens, “Yn anffodus mae 2020-21 wedi bod yn flwyddyn heriol i addysg Gymraeg gyda chylchoedd meithrin dan warchae a mudiadau iaiath dan staren. Er gwaetha’r anawsterau, maent yn benderfynol o ddal ati. Diffyg adnoddau sy’n eu llesteirio. Ac o’r herwydd, mae wedi bod yn flwyddyn heriol i’r Gronfa hithau, gyda galwadau a gofynion yn llawer mwy niferus ac yn uwch nag yn y gorffennol. Yn wir, mae’n argyfwng, ac nid ydym bellach yn gallu ymateb i bob cais am gymorth er mor deilwng ydyw.”

Gwneir yr apêl yn enw Llywydd Anrhydeddus y Gronfa, sef Cennard Davies, ac mae’n agored tan 30 Ebrill. Am fanylion pellach, dylid cysylltu â Mrs Catrin Stevens, Cadeirydd ar:

Ff: 01792893410 neu E: Catrin Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Gellir cael mwy o wybodaeth am y Gronfa trwy edrych ar http://www.cronfaglyndwr.cymru

 

Y grantiau’n gwneud gwahaniaeth yn ein hardal ni...

CM Bae Cinmel (marchnata)

“Braf yw gallu adrodd yn ôl y bu i’r cyllid ar gyfer y posteri a phamffledi fod yn hynod werthfawr. Cynhaliwyd bore agored a daeth 7 plentyn newydd. Cafwyd 7 plentyn ar lyfrau’r cylch gyda 2 arall i gychwyn yn yr wythnos ganlynol. Felly mae’r marchnata wedi gweithio!”