Y Bigwn

Mae gen i broblem. Sgwn i a fedrwch chi fod o gymorth imi?

Prinder sebon siafio yn siopau’r dref  sy’n fy mhoeni i. Bu’n anhawster ers peth amser bellach. Holi a chael addewid mewn ambell siop y bydden nhw’n archebu peth ar fy nghyfer, ond dim arwydd o’r styllen o sebon yn ymddangos ar y silffoedd.

Un am ddefnyddio sebon siafio fȗm i erioed. Fe gefais beiriant trydan gan rywun yn fy nyddiau cynnar o eillio, ond roedd yn gas gen i ei ddefnyddio. Roedd fy wyneb a fy ngwddf yn cosi a doeddwn i ddim yn teimlo fy mod yn cael shêf iawn.

Fe wnes i fy ngorau gyda “foam”, ond roeddwn i’n cael anhawster i wasgaru’r ewyn gwyn yn wastad ar draws fy ngwep. Ac, wrth gwrs, roeddwn i’n colli’r wefr a gaiff dyn wrth grafu’r trochion gyda rasal a dŵr poeth.

Beth am dyfu barf, meddech chi? Rhaid imi gyfaddef bu hynny’n demtasiwn ar adegau, yn arbennig gan mai fi ydy’r unig ddyn yn ein teulu estynedig ni sydd heb dyfiant blewog o ryw fath ar ei wyneb.

Yn anffodus, ar ȏl diwrnod neu ddau heb siafio rydwi’n teimlo’n fudr ac yn dechrau crafu er nad oes yna fawr ddim blewiach yn ymddangos ar fy ngernau.

Mae yna rai dynion yn d’eud eu bod yn arbed amser yn y bore drwy beidio ag eillio. Yn rhyfedd ddigon, roeddwn i’n edrych yn ddiweddar ar luniau o weithwyr Chwarel Dinorwig yn chwedegau y ganrif ddiwethaf. Doedd yr un ohonyn nhw efo unrhyw dyfiant ar eu hwynebau, ac roedden nhw yn gorfod codi’n gynnar i wynebu’r gwynt deifiol ar lethrau’r mynydd!

Felly, cysylltwch â’r Bigwn os medrwch chi fod o gymorth imi.


Ydach chi wedi gweld rhaglen deledu o’r enw The Repair Shop? Rhaglen heb ffrils ydy’ hi sydd yn dangos tîm o weithwyr mewn cwt go grand yn atgyweirio “trysorau teuluol” megis ceffyl pren neu dedi.

Mae hi’n rhaglen mor boblogaidd fel bu i’r BBC ei symud hi o’r prynhawn i’r hwyr.

Yr hyn sydd yn taro rhywun ydy dawn a dyfalbarhad y crefftwyr hyn wrth iddyn nhw ddatgymalu’r petheuach, eu glanhau nhw a’u cael nhw’n edrych fel newydd. Fedr rhywun ond dotio wrth weld y criw mor ddiymhongar wrth eu gwaith.

Does ganddyn nhw ddim celfi cymhleth wrth law- dim ond pethau syml fel sgriwdrifar, morthwyl a brws paent a llwyth o amynedd.

Rydwi’n siwr y byddai ambell fardd sydd â chysylltiad â’r Bigwn – os nad ydy o wedi gweld y rhaglen yn barod  - yn gwerthfawrogi gweld y crefftwyr hyn wrth eu gwaith.

Stan Lyall