Y Bigwn

Mae pandemig Coronavirus wedi newid llawer o'n harferion beunyddiol mewn ffordd nad oedd neb yn ei ragweld. Yn fy amser hamdden, byddai wythnos nodweddiadol i mi o’r blaen wedi cynnwys hyfforddiant pêl-rwyd, gemau pêl-rwyd, bocsio a sesiynau campfa ond gyda'r newid yn y ffordd o fyw yn ystod yr amser digynsail hwn, daeth fy mywyd yn fwy eisteddog wrth i mi weithio gartref ar ôl derbyn swydd newydd dros dro. Roeddwn yn teimlo'n eithaf ynysig a byddwn yn eistedd wrth fy nghyfrifiadur am gyfnodau hir.  Roeddwn i'n gwybod bod yn rhaid i mi fod yn rhagweithiol i gynnal ffordd o fyw egnïol yn oes y pellter cymdeithasol ac ar Awst 24ain, 2020, cofrestrais i gymryd rhan mewn digwyddiad rhithwir, 'Her Rithwir Llwybr Arfordirol Cymru'. Her ryngweithiol wych o gerdded / rhedeg llwybr arfordirol Cymru, ydy hwn, 870 milltir mewn cyfanswm. Mae gen i 12 mis o fy nyddiad cychwyn i gyflawni'r her ond roeddwn i eisiau herio fy hun mwy, felly fe wnes i osod terfyn amser o 6 mis i mi fy hun, sy'n golygu bod yn rhaid i mi gerdded tua 4.6 milltir y dydd ar gyfartaledd. Mae'r her yn cychwyn o Gas-gwent ac yn gorffen yn Aber Dyfrdwy ger Caer. Rwyf wedi bod yn mynd allan am fy lwfans ymarfer corff bob dydd yn ogystal â defnyddio melin draed y tu mewn i glocio'r milltiroedd. Rwyf hefyd wedi cwblhau heriau llai ar hyd y ffordd, fel cerdded o gwmpas Llyn Brenig.

Ar ôl pob taith gerdded, rwy'n defnyddio’r cyfrifiadur i gwblhau'r ffurflen milltiroedd byw ac yn symud ar unwaith ar hyd llwybr yr arfordir gyda system rithwir bwrpasol. Rwy'n gweld fy hun yn symud yn agosach at fy nod olaf! Mae'r map rhyngweithiol yn caniatáu imi edrych ar y golygfeydd o'm cwmpas gyda'r olygfa stryd Google wedi'i hadeiladu i mewn.

Rwyf hefyd yn gallu datgloi cardiau post digidol ar hyd y llwybr er mwyn fy niddanu a'm cymell. Mae pob cerdyn post yn datgelu gwybodaeth ddiddorol am bwyntiau ar hyd y llwybr. Dwi bellach wedi cyrraedd Sir Benfro. Llai na 500 milltir i fynd!

O wybod, yn ystod yr amseroedd ansicr yma fod llawer o elusennau yn ei chael hi’n anodd, penderfynais cyfuno’r her a chasglu arian. Rwyf wedi fy nghalonogi gan roddion ariannol sydd wedi fy ngweld yn rhagori ar fy nharged gwreiddiol o £200 (£375 wedi ei godi hyd yn hyn) tuag at Ambiwlans Awyr Cymru.

Collage yr Her Gerdded