Y Bigwn

Logo Menter Iaith Sir Ddinbych

Yn ystod Wythnos Ymddiriedolwyr 2020 (2 – 6 Tachwedd), cafodd staff a chyfarwyddwyr Menter Iaith Sir Ddinbych gyfle i ddathlu’r ffaith eu bod wedi derbyn dyfarniad Marc Elusen Ddibynadwy.

Mae’n farc cydnabyddedig cenedlaethol sy’n dangos bod Menter Iaith Sir Ddinbych yn sefydliad credadwy a safonol. Dyfarnwyd y marc yn dilyn asesiad allanol ac mae’r gydnabyddiaeth yn cadarnhau bod holl feysydd hanfodol y Fenter ar gyfer rheoli a llywodraethu elusen yn effeithiol, wedi cyrraedd y safon.

 

Staff y Fenter yn nathliadau Mentrau Iaith Cymru Ionawr 2020

Staff y Fenter yn nathliadau Mentrau Iaith Cymru Ionawr 2020

“Rydyn ni’n falch iawn o’r llwyddiant,” meddai Ruth Williams, prif swyddog Menter Iaith Sir Ddinbych. “Nid ar chwarae bach roedd paratoi ar gyfer cyrraedd y marc yma, felly mae’n glod i’r tîm cyfan ein bod wedi derbyn y gydnabyddiaeth.”
Daw’r dyfarniad ar ganol blwyddyn wahanol iawn i’r tîm gyda chyfyngiadau COVID19 wedi effeithio’n fawr ar raglen waith arferol y Fenter. O ddiwedd Mawrth bu’n rhaid addasu gwaith yn gyflym er mwyn parhau i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg a chodi ymwybyddiaeth o’r iaith, a hynny yn rhithiol.
Roedd hi’n braf gallu cyrraedd penllanw i waith y Fenter ar gyfer 2019 - 2020, trwy gynnal cyfarfod blynyddol llwyddiannus iawn ganol mis Hydref. Gwnaed hynny, am y tro cyntaf, yn rhithiol.

 

Alice Jones, Cadeirydd y Fenter

Alice Jones

Yn ôl Alice Jones, Cadeirydd y Fenter: “Roedd hi’n brofiad da gallu dod ynghyd, er yn rhithiol, a tharo golwg dros waith y mudiad dros y flwyddyn a aeth heibio. Braf oedd gallu dathlu’r llwyddiant o ennill y marc elusen ddibynadwy a diolch i’r staff am eu gwaith. Yn aml iawn, mae pobl yn anghofio mai criw bychan o staff sydd gennym ni sy’n llwyddo i gyflawni toreth o waith mewn blwyddyn! Mae’r staff i’w gweld yn gweithio’n ddygn yn ein cymunedau, a rhaid talu clod iddynt am addasu mor hwylus i’r newid yn yr amgylchiadau pan darodd yr haint.

“Mae 10 o gyfarwyddwyr ar y pwyllgor rheoli a’n gwaith yw cynnig arweiniad, anogaeth a chefnogaeth i’r swyddogion. Mae’n dod a phleser a boddhad i ni, ac rydym wastad yn chwilio am unigolion sy’n angerddol dros y Gymraeg i ymuno â’r pwyllgor.

Mae’r Fenter yn chwilio am unigolion brwdfrydig sydd â phrofiad o weithio yn y sectorau ieuenctid neu ddysgu Cymraeg i oedolion. Mae bod yn rhan o’r pwyllgor yn golygu cyfrannu’n wirfoddol ac yn adeiladol at hyrwyddo’r Gymraeg yn y sir. Os hoffech glywed mwy am waith y Fenter, neu os hoffech gefnogi, cydweithio neu ystyried ymuno â’r pwyllgor rheoli, cysylltwch â Ruth Williams Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. neu alw 01745 812822.