Gair da ydy angar. Dwn i ddim a ydy o’n dod o’r gair ager ai peidio, ond mae o’n cyfleu rhywbeth pur wahanol i ager neu anwedd. Ydy’ o’n air a berthyn i rannau o Wynedd yn unig?
Angar oedd y gair a glywn i ar yr aelwyd ers talwm am yr hyn a ffurfiai tu mewn i ffenestri’r tŷ ar ȏl noson glir, oer a thawel. Yn rhyfedd iawn os oedd hi’n cymylu dros nos roedd o wedi diflannu erbyn y bore. Ond i b’le mae o’n mynd? Oes yna ateb gwyddonol am hynny?
Mae angar yn glynu fel gelan i gorneli ffenestri ac yn gadael ei ȏl du ar ei ȏl, a gwae chi os oes gennych chi’r ffenestri plastig di-ddrafft hynny sydd mor ffasiynol bellach.
Yn gam neu’n gymwys rydwi wedi cael yr argraff fod angar a’i effaith wedi mynd yn fwy o drafferth dros y blynyddoedd, a hynny am nad ydy’n tŷ ni mor ddrafftiog. Does acw ddim simnai, mae’r waliau a’r daflod wedi’u hinsiwleiddio, ac mae pob drws allanol a ffenestr yn blastig.
Yr ateb ydy agor ffenestri, ac ar hyd y blynyddoedd bu’n dipyn o jȏc gan y plant acw fod dad, hyd yn oed ar fore rhewllyd, am iddyn nhw agor y ffenestri’n syth ar ȏl iddyn nhw ddod allan o’r gawod os nad cyn hynny! Adnod fawr y tŷ hwn fu, “ Elimination of the condensation.”
Ond yna, wele, yr wyf wedi darganfod teclyn sydd yn gymorth hawdd i’w gael mewn cyfyngder. Wna i ddim ei enwi rhag pechu unrhyw gwmni arall a all fod yn cynhyrchu rhywbeth tebyg. Peiriant melyn, trydanol ydy’ o. Dydach chi ddim angen batri ar ei gyfer, ac mae’n rhwydd i’w ddefnyddio. Mae’n llawer rhwyddach na glanhau’r ffenestri gyda lliain sychu. Dydy o ddim yn afresymol o ddrud i’w brynu ychwaith.
Fe wn i fod yna o leiaf un eglwys yn y dref hon yn ei ddefnyddio gan ei fod o’n medru gwaredu’i ffenestri o angar.
Felly, Missus Jones prynwch un i’r gŵr ar gyfer y Nadolig. Na, fydd o ddim yn flin efo chi – mae dynion wrth eu boddau efo “anrheg defnyddiol”. Fe gaiff flynyddoedd o bleser o’i ddefnyddio, ac o deimlo’i fod o’n gwneud ei ran gyda’r gwaith tŷ!
Nadolig Llawen i bob un ohonoch.
Stan Lyall
