Wedi cael caniatâd i ail-agor ein drysau a chynnal gwasanaethau ar ddechrau mis Medi, aelodau’r eglwys oedd yn gyfrifol am gynnal yr oedfaon, rhai syml a byr gan amlaf, a pob un yn wahanol i’w gilydd, yn adlewyrchu’r drefn newydd. Ond erbyn hyn, rydym wedi cael y pleser o groesawu rhai o’r “tu allan” i wneud hyn, megis y Parch Nesta Davies a Mr Dewi Williams, a mawr yw ein gwertghfawrogiad o’u parodrwydd i ddod atom yn ystod cyfnod mor gythryblus. Yn wir, Dewi Williams oedd y cyntaf i ddod atom yn dilyn y “Clo Bach”, ac efallai i chi gofio i ni gyhoeddi “Emyn i Bawb” a gyfansoddwyd gan Dewi yn rhifyn mis Gorffennaf. Fe gyfeiriodd at ei emyn yn ystod yr oedfa, gan nodi ei fod wedi gwneud nifer o newidiadau i’r geiriau ers hynny. Fel mae’n digwydd, fe ddefnyddiodd un o’n haelodau, Arwyn Roberts, yr emyn hwn pan fu’n arwain oedfa, yn ogystal â phenillion Mr Maldwyn Jones, “Hiraethu”, a ymddangosodd yn yr un rhifyn.
Hoffem ddiolch i Dewi am rannu rhai sylwadau gyda’n darllenwyr, yn dwyn y teitl “Pam Canu?”
