. . . Mae y gân o fewn y galon
‘Adsain clod i’r Brenin Mawr . . .
Diolch i’r Bigwn am gynnwys ‘Emyn i bawb’ gen i yn rhifyn Gorffennaf. Ar y pryd roeddwn i’n gobeithio y byddai diflastod y feirws drosodd erbyn hyn, ond i mi erys y cwestiwn -
‘Beth yw’r aflwydd anweledig . . .?’
Yn bersonol, teimlaf ryddhâd a llawenydd o gael ail-ddechrau pregethu a hynny yng nghapel Lôn Swan ar y 15fed o Dachwedd.
Mor braf oedd gweld wynebau cyfarwydd a chyfeillgar yr aelodau a theimlo cynhesrwydd eu Cristnogaeth, heb sôn am ambell sgwrs ddifyr, o bell wrth gwrs, wedi’r gwasanaeth.
Dyna pryd dangosodd Arwyn Roberts emyn ardderchog ‘Hiraethu’ gan Maldwyn Jones i mi. Yn ystod y bregeth ar thema ‘Gobaith a Gwyleidd-dra’ roeddwn i wedi crybwyll dau neu dri o newidiadau i fy emyn, a hynny ar ambell i awgrym gan ffrind neu ddau. A dyna’r cyd-ddigwyddiad pan eglurais i Arwyn imi yn wreiddiol sgwennu naw o benillon o bedair llinell yr un, nes i fy ngwraig awgrymu newid trefn y penillion a’u cyfuno fesul dwy gan adael un bennill fer allan ac felly gorffen efo pedair pennill o wyth llinell. Erbyn deall, er mawr syndod i mi, roedd Maldwyn hefyd wedi llunio pedair pennill o bedair llinell yr un nes i Arwyn awgrymu eu cyfuno yn ddwy bennill o wyth llinell, ac os dwi’ n deall yn iawn newidiodd Maldwyn rhywfaint ar drefn ei benillion wedyn hefyd.
Ond pam dweud hyn i gyd? . . . gallaf dybio bod y mwyafrif o ddarllenwyr ‘Y Bigwn’ yn hoff iawn o emynau ac o’u canu hefyd dwi’n siwr, a dros y blynyddoedd mae miloedd o bobol eraill wedi mwynhau a chanmol yr arfer a’r hoffter o ganu emynau sydd yn gryf yn ein traddodiad Cristnogol.
Yn wir, maen nhw’n dweud bod canu o unrhyw fath yn llesol i’r meddwl, yr emosiwn, y corff, ac yn helpu ein hyder ac i’n hymwneud â’n gilydd. Alla’ innau ddim llai na chytuno, wrth gwrs. Ac mi dybiwn fod hynny yr un mor wir am ganu Cristnogol cynulleidfaol hefyd.
Ond credaf fod canu emyn ar y cyd ag eraill neu pan rydan ni ar ein pennau’n hunain yn ein cynnal mewn ffordd arall hefyd, yn agor ein llygaid ac yn ehangu ein meddyliau ac i gynhesu ein calonnau yn y gwirionedd Cristnogol.
Caneuon gras ydy emynau yn eu hanfod, ac wrth fwynhau clywed a geirio addewidion gras gydag eraill gobeithio y sylweddolwn werth aberth Crist, cariad Duw, a chymdeithas yr Ysbryd Glân yn real iawn yn ein bywydau. Ond wrth gwrs nid er mwyn yr hunan yn unig ond ‘fel bo i eraill drwom ni adnabod cariad Duw’.
Mae’r gobaith Cristnogol yn ei hanfod i’w rannu bob amser â phawb arall. Y dyddiau yma mae llawer o bobol yn teimlo’n ddi-galon iawn, nid yn unig oherwydd y feirws ond anghyfartaledd economaidd a dryswch gwleidyddol wrth i filiynnau lawer gael eu camarwain i ddilyn ac eilunaddoli arweinwyr pwdr iawn sydd yn hoffi portreadu nhw’u hunain fel gwaredwyr o fri drwy feio lleiafrifoedd fel bychod dihangol er mwyn tra-dyrchafu nhw’u hunain i lefel uwch na neb arall. Ble mae gostyngeiddrwydd? Ble mae gwirionedd?
Ar Radio Cymru yn ddiweddar clywais gyngor da ar i ni geisio helpu unigolion sydd yn teimlo’n negyddol am bethau, nid drwy eu cynghori i drio bod yn gadarnhaol, ond i fod yn obeithiol. Ond gobaith ym mhwy? . . . ai yn yr arwyr gwellt hunan-ganolog ‘welwch-chi-fi’ neu ym Mab Duw ei Hunan?

Enfys o brom Y Rhyl
Dyma lun o enfys bnawn Sadwrn Tachwedd 14 eleni ar y prom yn Rhyl. Â bod yn onest, doeddwn i ddim mewn hwyliau rhy galonog yn gynharach y dydd, efallai’n pryderu ‘chydig am ail-ddechrau pregethu drannoeth yn Ninbych!, ond ces f’atgoffa gan fy ngwraig wrth weld yr enfys am Noa, a sylwedoli fod y bont seithliw y dyddiau hyn yn foddion i elusennau gyfleu gobaith i bobol sydd mewn amgylchiadau llwm neu anodd iawn.
Wrth gwrs, y cwbl ydy harddwch enfys ond heulwen yn cael ei rhannu i elfennau’r saith lliw wrth oleuo drwy ddafnau glaw ar ongl arbennig, fel drwy wydr trwchus. Ond fel sumbol mae’n llawer pwysicach, mae’n werthfawr fel addewid gras, y Duw goruchaf sydd yn dymuno i ni obeithio yn gyson bob dydd waeth beth fyddo’r amgylchiadau. Fe’n hatgoffir o sumbol arall, ganwaith mwy arwyddocaol, wrth gwrs . . .
‘Yn y Groes rwy’n gorfoleddu . . .’
(cyf. W.Williams o ‘When I survey the wondrous Cross . . .’ I.Watts)
Nadolig Llawen i bawb, a diolch am y gwahoddiad eto i Gapel Lôn Swan.
Dewi Williams
