Y Bigwn

Mrs Mary Grace Jones (6 Mawrth 1920 – 9 Hydref 2020)

Mrs Grace Jones, ar achlysur ei phenblwydd yn 100 oed mis Mawrth 2020

Mrs Grace Jones, ar achlysur ei phenblwydd yn 100 oed mis Mawrth 2020.

Yn ôl ym mis Mawrth, ar y chweched, y bu i ni ddathlu’r ffaith bod Mary Grace Jones, Maes yr Eglwys, yn CENTENARIAN - yn ganmlwydd oed. Cafodd fodd i fyw yn dathlu’r achlysur ac yn edrych mor llawen ac iach yn y lluniau ohoni. Pennawd y Free Press tra’n cofnodi hanes dathlu ei phen-blwydd yn gant oed oedd “Amazing Grace.”

Roedd Grace, yn un o’r chwe plentyn a anwyd i Moses a Blodwen Hughes, Tŷ Ucha, Pentre-Llyn-Cymmer. Derbyniodd ei haddysg yn yr ysgol leol tan yn ddeuddeg mlwydd oed, gan gerdded y siwrnai tair milltir, dwywaith y dydd dros y mynydd. O adael ysgol bu’n gweithio fel morwyn yn siop Bryn Aber, Cerrig-y-Drudion. Bu yno cyhyd fel yr adnabuwyd fel Grace, Bryn Aber. Am dair blynedd tan i’r Ail Ryfel Byd dorri allan, bu yn ‘nani’ i blant meddygon yn Ninbych a Rhuthun. Yn ystod y rhyfel, aeth i weithio fel cogyddes yn Ysbyty Llangwyfan. Yn ôl yr hanes bu Grace yn gyfrifol am goginio 635 o wyau, uwd a thost pob bore!

Yn ystod cyfnod y rhyfel, symudodd y teulu o Tŷ Ucha, i Nilig, Cyffylliog. Ar y diwrnodau i ffwrdd o’i gwaith fe’i gwelwyd yn beicio yr ugain milltir pob ffordd i’w chartref ac ar ôl cyrraedd, roedd yna ddisgwyl iddi helpu yng ngwaith y fferm. Mi roedd gan Grace feddwl mawr o’i theulu ac yn agos iawn i’w brodyr a’i chwiorydd. Amlygwyd hyn fwyfwy yn ei pherthynas â’r teulu a fagodd. Yn ystod ei chyfnod yn gweithio yn Llangwyfan, cyfarfu Grace â Wilfred Owen Jones o Henllan, a weithiodd i gwmni bysiau lleol. Er cymaint eu cariad am ei gilydd, fe benderfynodd y ddau ohirio eu priodas tan ddiwedd y rhyfel, i ddisgwyl ei brawd John, adref o’r carchar rhyfel, yn yr Almaen.

Unwyd y ddau mewn priodas yn Lôn Swan ym 1945. Bendithiwyd yr uniad â thri o blant, Ifor, Clwyd a Valerie, gan fwynhau bywyd dedwydd a hapus ar yr aelwyd ym Maes y Goron. Torrwyd ar lawenydd yr aelwyd drwy’r brofedigaeth o golli Wilfred, ac yna o fewn dwy flynedd colli Ifor mewn damwain. Er y golled ddwbl, ni surodd Grace. Fe gadwodd ei ffydd a oedd yn gymaint o nerth a chysur iddi mewn cyfnod anodd. Ymroddodd i gefnogi Clwyd a Valerie a darparu ar eu cyfer.

Profodd drwy’r blynyddoedd bod dim segurdod yn perthyn i Grace. Gweithiodd yn ddiwyd i gynnal ei hun a’i theulu, fel glanhauwraig, gweinyddes a dynes cinio yn Ysgol Uwchradd, Dinbych.

Bu Grace, yn ôl ei henw, yn wraig rinweddol, yn ostyngedig, yn rhadlon, yn gymwynasgar, yn garedig, yn dosturiol, yn urddasol, yn ystyriol a meddylgar o eraill, yn fawr ei pharch gan bawb a’i hadnabyddodd. Mi roedd y teulu yn bwysig i Grace.

Cyflwynwn ein cydymdeimlad cywiraf i Valerie, Clwyd a Judith, y chwech o wyrion ac un-ar-ddeg  o orwyrion, yn eu hiraeth am Fam, Nain a Naini.

.