Yr Uned dan 5
Mae hi wedi bod yn hanner tymor hynod o brysur yn yr Uned dan 5 a’r plantos bach yn dechrau dod i arfer â’r drefn newydd o molchi a diheintio dwylo yn rheolaidd!! Rydym wedi croesawu 40 o blant bach newydd i’r Dosbarth Meithrin ac maen nhw wrth eu boddau yng nghwmni ei gilydd.

Eilidh yn mwynhau bwyta cebab ffrwythau
Ein thema am yr hanner tymor oedd Ffrindiau ac fel y gallwch ddychmygu roedd y plant yn mwynhau cael bod yn ôl yng nghwmni eu ffrindiau ar ôl y clo mawr. Rydym hefyd wedi bod yn dysgu am sut i gadw’n cyrff yn iach. Dyma Eilidh yn mwynhau gwneud a bwyta cebab ffrwythau!

Mabli ac Ela
Mae cael hwyl yn yr awyr agored yn helpu i gadw ein corff a’n meddwl yn iach. Cawsom lawer o hwyl yn creu râs rwystrau yn y dosbarth tu allan fel y gwelwch chi o lun Mabli ac Ela!
Cyn y gwyliau fe gawsom ni lawer o hwyl yn gwella ein sgiliau mân trwy beintio, morthwylio a thyllu pwmpenni. Dyma rai o’n gweithgareddau.




Llongyfarchiadau mawr i Mrs Dilwen Parry ar enedigaeth Nansi Fflur dros yr Haf. Fe wnaeth y plant fwynhau cael sgwrs rhithiol efo nhw yn ystod y tymor. Dyma gerdyn wnaeth Mrs Meira Jones a’r plant i groesawu Nansi.
Croeso i Mrs Rhian Rowlands sy’n gweithio efo’r Dosbarth Meithrin bob bore rwan yn ystod cyfnod mamolaeth Mrs Parry.
Uned dan 7
Braf oedd croesawu plant yn ôl i’r Uned Dan 7 yr hanner tymor hwn. Rydym wedi bod yn brysur yn hela eirth! Cawsom ddysgu’r stori ‘Rydan ni’n mynd i Hela Arth’ ac yna wedi bod yn brysur yn yr ardd yn creu ogof i’r arth, yn ail-greu taith y teulu bach yn chwilio amdano ac yn creu ryseitiau uwd ych a fi ar ei gyfer!

Uned dan 9
Braf oedd cael croesawu pawb yn ôl i swigen yr Uned dan 9. Rydym i gyd erbyn hyn wedi dod i arfer gorfod diheintio ein dwylo yn aml iawn a cheisio cadw dwylo i ni ein hunain. Rydym wedi bod yn lwcus iawn hefyd i wneud y gorau o dywydd braf mis Medi a Hydref gan weithio yn ein hardal tu allan. Ein thema yr hanner tymor diwethaf oedd Y Goedwig Wyllt. Mwynhaodd pob dosbarth fynd am dro i’r goedwig ger Castell Dinbych a chymryd rhan yn yr helfa goed.



Cynhalwyd ras fawr yn yr uned yn ddiweddar - Y ras falwod fawreddog.Roedd pawb yn gyffrous iawn ac wedi bod yn brysur yn darganfod y falwen orau i rasio!! Dyma luniau o ychydig o’r hwyl.



Buom yn brysur yn coginio crymbl afal hefyd yr yr uned. Bu rhai yn casglu afalau oddi ar goed yn eu gerddi ac yna cafodd bawb gyfle I goginio crymbl afal eu hunain. Roeddent I gyd yn flasus iawn a phawb wedi mwynhau.


Rydym yn edrych ymlaen am seibiant hanner tymor rwan ac yna byddwn yn mynd i’r goedwig law drofannol yn ein thema nesaf. Mae pawb yn edrych ymlaen am eu trip i’r jwngl!! Gobeithio bydd y cyfyngiadau teithio wedi eu codi erbyn hynny!! Cewch fwy o’r hanes yn y rhifyn nesaf.
Uned dan 11

Blwyddyn Newydd, thema newydd ac mae uned dan 11 wrth eu boddau yn darganfod gwybodaeth am ‘Busnesau Dinbych’. Rydym wedi bod yn ffodus iawn i gael llawer o fusnesau yn dod atom.
Roedd y plant wedi gwirioni pan ddaeth Chilly Cow i mewn atom gan drafod eu busnes i ni. Dwi’n siwr roedd y plant wrth eu boddau!!!

Yna cafodd y plant gynnig ar iogwrt Llaeth y Llan a dyfalu pa flas oedd yn y potiau? Pa flas yw eich hoff un chi?
Yn wir mae’r plant wedi bod wrth eu boddau gyda’r Thema newydd yma, ac yn awyddus iawn i weld ble fydd y Thema ‘Busnesau Dinbych’ yn eu harwain nesaf?

Yn ogystal â hyn cafodd blwyddyn 6 amser i feddwl am eu dyfodol wrth i Mrs Williams o Ysgol Glan Clwyd ddod i mewn i drafod beth fydd eu cam nesaf ar eu taith gyda’u haddysg.
