Y Bigwn

logo Gwefr heb Wifrau

Gwefr heb Wifrau

logo cwmulus

 

 

www.gwefrhebwifrau.cymru

https://cwmulus.org/

Dilynwch ni ar     

Blwyddyn newydd dda i holl ddarllenwyr Y Bigwn!

Baner Ynni Ogwen

Baner Ynni Ogwen

Mynychodd dros ddeugain o bobl ddarlith Gymraeg gyntaf Cwmulus arlein yn ddiweddar.  Gareth Cemlyn Jones oedd y gwestai a thestun ei ddarlith oedd Ynni Ogwen.  Prosiect ynni cymunedol yw ‘Ynni Ogwen’ sy’n defnyddio grym llif yr afon Ogwen ym Methesda i gynhyrchu trydan hydro adnewyddol.

 

 

Y Gored

Y Gored

Disgrifiodd Gareth y broses o ddewis lleoliad yn 2016, cynnal astudiaethau lleol, ymgeisio am ganiatâd, codi £500,000 trwy gyfranddaliadau, adeiladu’r gored, y beipen i’r tyrbin, a’r generadur yn y ‘sied’, a’r gwaith cynnal a chadw sy’n cael ei wneud gan dîm o wirfoddolwyr brwd.  Mae’r trydan yn cael ei werthu ac mae’r elw yn cael ei ail-fuddsoddi mewn prosiectau cymunedol eraill yn yr ardal, megis Heuldro, sydd wedi gosod paneli solar ar chwech adeilad cyhoeddus ym Methesda.  Y prosiect diweddaraf yw Dyffryn Gwyrdd sy’n ceisio taclo tlodi trafnidiaeth a thanwydd, ac unigedd gwledig a grymuso’r gymuned.  Mae Ynni Ogwen wedi ennill nifer o wobrau ac mae’n le poblogaidd iawn ar gyfer ymweliadau grwp.

 

 

 

 

Castell Dinbych

Castell Dinbych

Roedd ‘na gryn dipyn o gyffro ac edrych ymlaen ar gyfer ein digwyddiad ar Ragfyr 11eg.  Gan fod y feirws wedi rhwystro ffilm newydd ein gwneuthurwr-ffilm lleol, Tony Griffiths, rhag cael ei phremière yng Nghlwb Ffilm Dinbych, penderfynwyd ei dangos ar-lein.  Cawsom gyflwyniad hudolus a rhyfeddol o ‘Straeon a Chwedlau o Ogledd Cymru’, gan gynnwys straeon am ysbrydion, arwyr, dihirod, llofruddiaethau a dihangfa feiddgar carcharorion rhyfel o Ddyffryn Aled, y cyfan wedi’u ffilmio yn erbyn cefndir hardd y lleoliadau gwreiddiol.  O ddiddordeb lleol, nodwyd mai castell Dinbych yw’r castell sydd â’r nifer fwyaf o hanesion am ysbrydion yng Nghymru.  Darluniwyd hanes Arglwyddes Grey o gastell Rhuthun, Ann Parry a Dafydd Salusbury o Lanrhaeadr, yn ogystal â ffenest Jesse a ffynnon Sant Dyfnog. 

 

Llongyfarchiadau i Tony a’i dîm am eu gorchestwaith ac edrychwn ymlaen am gyfle arall i wylio’r ffilm yn y dref yn y dyfodol.  Yn y cyfamser, mae’n bosib prynu DVD o’r ffilm yn siop Tony.

 

Dyma’r darlithiau nesaf yn ein cyfres: 

Ar 22.01.2021 bydd Ian Cook yn sôn am Gerbydau Trydan.  Bydd hon yn sgwrs o ddiddordeb cyffredinol, ac yn amserol iawn gan fod y Llywodraeth wedi cyhoeddi diwedd cynhyrchu cerbydau tanwydd ffosil yn 2030.

Ar 12.02.2021, bydd Mike Farnworth yn siarad am Cantre’r Gwaelod, yr Atlantis Cymreig.  Bydd yn adrodd stori Cantre'r Gwaelod ac yn ystyried sut gallai’r stori fod wedi tarddu, sut mae hi wedi parhau yng nghof y genedl, a sut byddai pentref yng Nghymru fodern yn diflannu yn yr un ffordd.

Bydd y sgyrsiau hyn trwy gyfrwng y Saesneg ac yn cychwyn am 7.00 y.h. Rhaid cofrestru o flaen llaw - edrychwch ar y gwefannau uchod neu ar dudalen Facebook Gwefr heb Wifrau am fanylion.

Testun Arall Delwedd 1

Radio Invicta Model 20.

O’r arddangosfa yn yr amgueddfa, Radio Invicta Model 20.

Radio falfiau, cludadwy mewn cabinet Bakelite ydy o, a gynhyrchwyd gan Invicta Radio yng Nghaergrawnt tua 1955.  Roedd y cwmni yn rhan o grwp Pye ers 1949 a chynhyrchon nhw nifer o radios a setiau teledu o’r tridegau tan y chwedegau.