Y Bigwn

Darparwyd Cinio Dolig diwrnod cyn Nadolig ac fe baratowyd 70 cinio ar gyfer yr henoed yn ardal Dinbych. Diolch i Sue  perchennog Glass Onion a goginiodd y cinio ac i J.H.Jones y cigydd am gyflenwi a choginio y tyrcïod, Chris a Liz o 'Eat your Greens' am y llysiau i gyd ac am y 140  tarten Nadolig  o Eglwys St Thomas a St Mary. Diolch i'r plant am bacio'r cardiau a'r siocled, ac heb anghofio'r dwsin o yrwyr a roddodd eu hamser i fynd o gwmpas yn danfon y nwyddau.


DSC3286

DSC3283