Yn ystod yr wythnosau cyn i Lefel Rhybudd 4 Llywodraeth Cymru ddod i rym, cawsom y pleser o wahodd tri cennad o Sir Conwy i’n plith i arwain ein Oedfaon Boreol, sef Mr Celfyn Williams, Groes, Mr Gwyn Evans, Llysfaen, a Miss Debbie Roberts, Rhydyfoel. Gwerthfawrogwyd eu negeseuon amserol gan bawb oedd yn bresennol. Wedyn cawsom ein harwain drwy wasanaeth y Cymun gan y Parch Graham Floyd, unwaith eto’n dilyn y canllawiau a’r rheoliadau perthnasol. Y bwriad oedd cynnal gwasanaeth Llith a Charol ar y Sul cyn y Nadolig ac hefyd i gynnal Cyfarfod Gweddi ar fore’r Nadolig yn ôl ein harfer, ond mewn dullia tra gwahanol eleni. Ond, fel y gwyddoch, daeth yn cyhoeddiad am Lefel Rhybudd 4 yn hwyr ar ddydd Sadwrn 19fed Rhagfyr, ac er fod yr hawl yn parhau gennym i gynnal gwasanaethau, penderfynwyd canslo holl wasanaethau nes clywir yn wahanol.
Gyda chymorth aelodau eraill o’r teulu, aeth Graham ati’n syth i sicrhau fod y gwasanaeth Llith a Charol ar gael ar-lein fel cyflwyniad PowerPoint erbyn dydd Nadolig, ac rydym yn hynod ddiolchgar iddo am hynny a’i holl waith y tu ôl i’r llenni yn ystod blwyddyn mor heriol i bob un ohonom. Daeth y neges hwn ganddo gyda’r cyflwyniad:
“Bore Sul diwethaf dan yr amgylchiadau, gwnaed y penderfyniad i ohirio cynnal oedfaon dros gyfnod y Nadolig a than y teimlwn yn ddigon cyfforddus a diogel i ail ymgynnull. Drwy’r cyfnod anodd hwn a ddaeth i'n rhan eleni, bu ein consyrn am eich iechyd a'ch diogelwch yn bennaf yn ein meddyliau. Gwnaed pob dim posib i leihau y risg pan gyda’n gilydd.
Yn y tymor hwn, sydd yn draddodiadol yn gyfnod o lawenydd i bawb ohonom, sylweddolaf nad felly yw eleni a chofiwn yn arbennig am y rheini o’n plith sydd ar wahân ac yn pryderu am eu hanwyliaid. Gweddïwn am nawdd a nerth a chynhaliaeth i un ac oll.”

Hysbysfwrdd Capel Lôn Swan 20/12/20

Y Capel wedi ei addurno ar gyfer gwasanaethau'r Nadolig
