Ni chynhaliwyd gwasanaeth yn y Brwcws ers Mawrth 15ed. Diolch yn fawr i’r Parch Andras Iago am ofalu am wasanaethau ar Zoom, drwy e-bost neu drwy’r post.
Gan fod rheolau a trefniadau yn ymwneud a’r Covid wedi newid ni fu yn bosibl cynnal y CAR-olau oedd wedi ei drefnu ym maes parcio y Clwb Rygbi, Rhagfyr 20ed. Roedd hyn yn siom fawr gan ein bod wedi edrych ymlaen am weld ein gilydd yn y cnawd am y tro cyntaf ers fis Mawrth. Diolch yn fawr i bawb fy yn brysur yn trefnu ar ein cyfer.
Diolch i Rhian Cattell am drefnu’r apêl bocsys esgidiau i Teams4U ac i Karen Jones a hithau a’u plant am fynd a nhw i’r ganolfan gasglu ym Mochdre.
Cydymdeimlwn a Gwawr, Andrew, Morgan a Martha Cordiner, Llys y Coed yn eu profedigaeth o golli mam Gwawr sef Mrs Hilda Williams, Dolwyddelan.
Llongyfarchiadau a phob dymuniad da i Enid Thomas ar ei phenblwydd arbennig ar y dydd olaf o’r flwyddyn.
Pob Bendith a Blwyddyn Newydd Dda i bawb gan obeithio y bydd pethau yn gwella yn 2021
Apel Bocsys Teams 4U
Diwedd mis Tachwedd aethom ni i Mochdre unwaith eto gyda rhoddion i Teams4U ar ran ein ysgol Sul. Fel arfer pan ‘da ni’n mynd yno mae ‘ne 'production line' a tîm mawr o wirfoddolwyr yn casglu’r bocsys a mynd trwy bob un i wneud yn siŵr fod popeth yn saff yn y bocs cyn iddyn nhw gael eu pacio i ffwrdd ar lori a mynd i blant yn Nwyrain Ewrop. Yn y gorffennol rydan ni wedi gweld wal enfawr o focsys i un ochr, i gyd mewn papur Nadolig, yn llawn o deganau, rhoddion, brwsh dannedd, melysion ayyb. Golygfa werth ei weld fel arfer. Ond oherwydd y sefyllfa gyda covid-19 doedd dim byd fel yna eleni, doedd dim posib gallu cael gymaint o fobl mewn un lle a'u cadw'n saff. Roedd Edwin, y gwirfoddolwr oedd yn cyfarfod gyda ni yn Mochdre, yn egluro nid oedd Teams 4U wedi derbyn gymaint o focsys eleni. Er hynny, roedden nhw yn andros o falch o gael y rhoddion hael gan Capel y Brwcws. Roedd yn dweud fod plant Dwyrain Ewrop angen rhain yn fwy eleni nag erioed.
Dyma'r rhoddion gan y Brwcws:
10 bocs; 30 o addurniadau Nadolig wedi eu gwneud gyda llaw gan aelodau'r Capel; 10 sgarff a 6 het wedi eu gwau gan aelodau'r Capel; bag o deganau ychwanegol a £65 o rhodd ariannol.
Dyma luniau o'r rhoddion, a Flora gyda'i bocs y tu-allan i'r man casglu yn Mochdre.




Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu mewn unrhyw ffordd i helpu plant llai ffodus na ni yn Romania, Belarws, Bosnia a Moldofa.
Cari a George, Ysgol Sul y Brwcws.
