“Cryno, heriol, cyraeddadwy!” – cyfrol amserol yn rhannu syniadau iwtopaidd ar y Gymru fydd

“Dwi’m yn disgwyl i bawb gytuno â phopeth yn y pamffled – i rai fydd pethau'n rhy radical, i eraill ddim yn digon radical,” meddai Llywelyn ap Gwilym am ei gyfrol ddwyieithog newydd a gyhoeddwyd yr wythnos hon, sef Llyfr Du Cymru Fydd / The Black Book of the New Wales (Y Lolfa).
Mae trefnydd ralïau AUOB Cymru a ddenodd filoedd o gefnogwyr cyn cyfnod Covid-19 wedi mynd ati i ysgrifennu ei weledigaeth o Gymru annibynnol. Mae’r awdur Llywelyn ap Gwilym hefyd ar Bwyllgor Canolog YesCymru. Meddai:
“Ers i mi gofio, dwi wedi cefnogi’r syniad o Annibyniaeth, ond mewn modd difeddwl. Ers cael plant a symud yn ôl i Gymru rwyf wedi meddwl yn ddyfnach am wleidyddiaeth, economeg a chymdeithaseg: meddwl mwy am y ‘pam’. Wrth ysgrifennu Llyfr Du Cymru Fydd dechreuais feddwl y gallwn helpu ysgogi’r ddisgwrs.”
Mae’r llyfr yn archwilio beth fydd Cymru annibynnol, ac ysgrifennwyd mewn ysbryd meddwl iwtopaidd: ei phwrpas yw ceisio cwestiynu beth all fod. Mae rhai o’r syniadau a gyflwynir yn ymadawiad radicalaidd o’r status quo, tra bod eraill yn prysur gael eu mabwysiadu fel meddwl orthodocs y chwith. Hefyd, mae rhai syniadau eisoes ar waith gan sefydliadau neu gyrff gwahanol neu wedi bodoli mewn cyfnodau gwahanol, tra bod eraill yn syniadau newydd sbon sy’n cael eu rhoi ar brawf.
Disgrifiwyd y gyfrol fel un "Gryno, heriol, gyraeddadwy!... Syniadau radical am y fath o Gymru gall Cymru fod... Darllenwch a gweithredwch" gan Siôn Jobbins, Cadeirydd YesCymru.
Mae’n gyfrol amserol, gyda’r canran o bobl yng Nghymru sy’n cefnogi Annibyniaeth wedi bron â threblu dros y chwe mlynedd ddiwethaf o 12% yn 2014 i 35% yn 2020. Mae’r ymgyrch Annibyniaeth i Gymru yn prysur gryfhau, gydag aelodaeth YesCymru yn cynyddu o 2,500 i dros 17,000 yn ystod 2020, a nawr yn derbyn sylw cyson yn y wasg Brydeinig ynghyd â dramor.
“Rwy’n gobeithio bydd y llyfr yn helpu symud y sgwrs ymlaen fel bod mwy o bobl yn trafod beth yw ein gwerthoedd, pa fath o gymdeithas yr ydym am fyw ynddo, a sut; mai Annibyniaeth yw’r llwybr mwyaf realistig ar gyfer cyflawni’r newidiadau yma. Byddai’n drasiedi colli’r cyfle i sicrhau dyfodol gwell i bob un ohonom sy’n galw Cymru’n gartref ac, ar ôl i ni ennill annibyniaeth, ail-greu anghydraddoldeb ac annhegwch presennol y DU. Llyfr Du Cymru Fydd yw fy nghyfraniad at ddyfodol gwell.”
Bydd Llyfr Du Cymru Fydd gan Llywelyn ap Gwilym ar gael erbyn 1af Mawrth (£4.99, Y Lolfa).
ISBN : 9781800990401
Canmoliaeth
“Cryno, heriol, cyraeddadwy! Syniadau radical am y fath o Gymru gall Gymru fod – ond mae angen annibyniaeth ac egni annibynnol er mwyn datgloi a rhyddhau’r syniadau. Darllenwch a Gweithredwch. Gwell Cymru Dda na Phrydain Fawr.”
- Siôn T. Jobbins, Cadeirydd Yes Cymru
“[Mae] Llyfr Du Cymru Fydd gan Llywelyn ap Gwilym yn gyfraniad hollbwysig i’r weledigaeth fydd yn rhyddhau Cymru o’r wladwriaeth Brydeinig bydredig.”
- Sam Coates, Undod
“… a cracking piece of work. Very clear thinking. Good, sound values base. I love the references you draw on – some of my favourites – Raymond Williams, Gramsci, Bookchin, Bell Hook, Malcolm X, Maya Angelou, the Preston stuff and Mondragon. And the way you bring it all the thinking together… Your book outlines why it is not tenable for people in Wales to carry on as we are and offers an inclusive vision of real independence. For the Indy curious, this is a must-read.”
- Leanne Wood, Plaid Cymru
“A small book with big ideas! A welcome addition to the independence debate.”
- Cian Ciarán, Cerddor (Super Furry Animals), cyfansoddwr ac Is-Gadeirydd YesCymru
“Llywelyn ap Gwilym’s The Black Book of the New Wales doesn’t claim to have all the answers, it weaves together an empowering series of concepts and initiatives that are ready and willing to form new institutions and structures.”
- Ben Gwalchmai, sefydlwr Llafur dros Gymru Annibynnol
“An exciting blueprint for building a better society.”
- Dan Evans, Desolation Radio
