Y Bigwn

logo diogelwn

 

Hoffwn dynnu sylw eich darllenwyr at gynllun newydd o'r enw DIOGELWN y mae Cymdeithas yr Iaith wedi’i lansio.

Bwriad y cynllun yw diogelu enwau Cymraeg ar dai er mwyn cenedlaethau’r dyfodol.

Mae'r syniad sydd wrth wraidd y cynllun yn un syml iawn, ac yn berthnasol i bawb sy'n byw yng Nghymru ac sy'n berchen ar dŷ ag enw Cymraeg.

  • Os ydych ar fin gwerthu eich tŷ: gallwch ofyn i'ch cyfreithiwr gynnwys cymal penodol yn y cytundeb gwerthu er mwyn atal prynwyr a'u holynwyr mewn teitl rhag newid yr enw yn y dyfodol.
  • Os nad ydych yn bwriadu gwerthu’ch tŷ: gallwch ddiogelu’r enw trwy lofnodi a chofrestru cytundeb (gyda chymorth eich cyfreithiwr) er mwyn atal prynwyr neu gymyndderbynwyr o dan eich Ewyllys chi a'u holynwyr mewn teitl rhag newid yr enw yn y dyfodol.

Mae’r dogfennau perthnasol (sydd wedi’u paratoi gan ein cyfreithwyr) ar gael ar wefan y Gymdeithas i'w lawrlwytho. Ewch i cymdeithas.cymru/diogelwn (neu gallwch ffonio 01970-624501 a gallwn anfon y dogfennau atoch trwy’r post).

Cofion gorau

Mabli Siriol