
Gwefr heb Wifrau


Pwynt gwefru lleol
Pam nad ydych chi wedi buddsoddi mewn Cerbyd Trydan Batri cyn hyn? oedd teitl darlith ar-lein Ian Cook yn ddiweddar. Dim ond Cerbydau Trydan Batri mae Ian a’i wraig wedi eu perchen ers 2011 ac maen nhw wedi teithio tua 200,000 o filltiroedd heb brofi batri gwag un waith. Rhestrodd Ian brif resymau’r cyhoedd am beidio â phrynu Cerbydau Trydan Batri, gan nodi yn arbennig y gost, a’r gofid am brinder pwyntiau gwefru. Eglurodd fod ‘na grantiau ar gael, mae’r gyfradd dreth yn 0%, mae pris trydan yn isel o’i gymharu â phris tanwydd hylif, ac mae’r costau cynnal a chadw yn is – prin bod y breciau yn cael eu defnyddio o gwbl. Mae nifer y pwyntiau gwefru ar hyd a lled y wlad yn cynyddu, fel y gwelir yn y llun, ac mae llawer mwy ohonyn nhw nag sydd o orsafoedd petrol. Yn y dyfodol, efallai bydd hi’n bosib i wefru car yn ddigyswllt, wrth yrru dros bwynt gwefru ar wyneb y ffordd, wrth oleuadau traffig er enghraifft, neu ar lôn arbennig ar y draffordd.
Nododd Ian fod Cerbydau Trydan Batri yn ddibynadwy iawn a bod y manteision i iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd yn amlwg. Mae profion yn cael eu cynnal ar hyn o bryd ar ddefnyddio batri fel storfa drydan, a dychwelyd y trydan i’r grid cenedlaethol pan fydd y car yn segur. Mae’n debygol bydd gwerthiant Cerbydau Trydan Batri yn cynyddu yn aruthrol yn y dyfodol agos, yn arbennig gan fod y llywodraeth wedi pennu’r flwyddyn 2030 fel yr adeg i orffen cynhyrchu cerbydau tanwydd ffosil.
Mae Mike Farnworth o Lerpwl yn gyfaill brwdfrydig i’r Amgueddfa ac mae wedi cyflwyno darlithiau i ni ar fwy nag un achlysur. ‘Cantre’r Gwaelod, yr Atlantis Cymreig’ oedd testun ei sgwrs ar-lein y tro yma a chawsom ddarlith ddisgyrsiol, ddiddorol iawn ganddo. Awgrymodd fod hanes Cantre’r Gwaelod yn rhan o gof y genedl, a nododd y cyfeiriad cyntaf ato yn “Boddi Maes Gwyddno” yn Llyfr Du Caerfyrddin, llawysgrif a gedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol, ac wedyn yn Trioedd Ynys Prydein. Erbyn hyn, mae’r hanes yn chwedl genedlaethol yn darlunio sut y boddwyd tir isel y Cantre gan ddŵr Bae Ceredigion, oherwydd bod Seithenyn wedi anghofio cau clwydi’r môr. Mae hwn yn bwnc o bwysigrwydd enbyd i ni heddiw wrth i ni sylweddoli bod lefel y môr yn codi wrth i’r iâ ar y pegynau doddi yn ganlyniad i gynhesu byd-eang. Cyfeiriodd Mike yn arbennig at sefyllfa pentref Fairbourne, ar dir isel rhwng Afon Mawddach a Bae Ceredigion, lle mae’r cyngor lleol wedi gorfod trwsio wal y môr ar ôl pob storom ac wedi penderfynu peidio â gwneud ar ôl 2050. Fydd Fairbourne yn dioddef yr un trychineb â Chantre’r Gwaelod?

Pen Radio
Anfonwyd y radio pen yma at yr Amgueddfa yn ddiweddar gan gefnogwr o Lerpwl. Mae’n Radio FM a phen Supersonic SC-21P yn un, gyda chlustffonau, ac mae’n defnyddio dau fatri LR44. Mae’n bosib ei raglennu i dderbyn nifer o orsafoedd radio, ac i ysgrifennu hefyd!
Dyma’r darlithiau nesaf yng nghyfres ar-lein yr Amgueddfa ynghyd â Cwmulus:
Ar 26.03.2021, bydd Pegi Talfryn yn cyflwyno darlith Gymraeg ar Santesau Celtaidd – y fam, y forwyn a’r ffeminist. Bydd yn trafod hanes rhai o’r prif santesau Celtaidd, gan ddefnyddio elfen gref o chwedleua a dehongliadau newydd o’r hen straeon.
Ar 23.04.2021, bydd Lesley Bordoli yn sôn am Sgowtio Sans Frontieres ac yn darlunio hanes y Sgowtiaid ers eu sefydlu yn 1907, gyda’r pwyslais ar weithgareddau awyr agored, at Mudiad Sgowtio rhyngwladol heddiw, a’r pwyslais ar gyflwyno sgiliau ar gyfer y byd cyfoes.
Ar 21.05.2021, bydd Grant Peisley, cyfarwyddwr Ynni Cymunedol Cymru a sylfaenydd Datblygiadau Egni Gwledig, yn sôn am Gweithredu Cymunedol ar Newid yn yr Hinsawdd. Bydd yn disgrifio prosiectau ynni cymunedol yng ngogledd-orllewin Cymru ac yn edrych sut mae’r grwpiau cymunedol hyn yn troi eu sylw at weithredu yn erbyn newid yn yr hinsawdd.
Croeso cynnes i bawb. Bydd y sgyrsiau yn cychwyn am 7.00 y.h. a rhaid cofrestru o flaen llaw - edrychwch ar y gwefannau uchod neu ar dudalen Facebook Gwefr heb Wifrau am fanylion.
