Y Bigwn

Mae ceisio rhoi newyddion at ei gilydd ar gyfer papur bro unrhyw adeg ddim yn hawdd – ond yn fwy anodd y mis yma gan ein bod wedi ein llorio gyda’r newyddion trist a ddaeth ar fore Chwefror 3ydd fod Lis Morris, un o’n haelodau mwyaf cyfeillgar a bywiog wedi ein gadael.  Bydd bwlch enfawr ar ei hôl, ac ar ran Cangen Dinbych a’r Cylch o Ferched y Wawr - estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf gydag Elfed, y meibion a’u teuluoedd, a’r llu ffrindiau oedd gan Lis yn y dalgylch ac ymhellach.

Mae rhan o deyrnged Nic Parri ar ran Cwmni Drama Rhuthun a welwyd ar Facebook yn crynhoi Lis yn berffaith:

“Peidiwch meddwl eich bod chi’n ddigri; neith o byth weithio os ‘da chi’n meddwl eich bod chi’n ddigri”.  Dyna oedd cyngor George Abbott, un o gyfarwyddwyr llwyfan mwyaf byd y ddrama yn America .‘Doedd Lis Morris ddim yn meddwl ei bod hi’n ddigri, ond mi roedd hi. Roedd hi’n naturiol ddigri. Gyda’r symudiad corfforol lleiaf, yr hanner edrychiad hwnnw, y marc cwestiwn hwnnw y gallai ei gyfleu efo’i gwyneb gallai wneud i gynulleidfa chwerthin yn afreolus.Pan fydd y llen yn disgyn o’r diwedd ar ddrama cyfnod y pandemic anhygoel, anifyr hwn, pan gawn ni ddychwelyd i gyfoeth cwmni’n gilydd, mae’n annodd dychmygu y gwnawn hynny heb Lis. Wrth inni ail afael, gan gynnwys yn ein gilydd, gwn y bydd pob un ohonom yn gofyn, wrth edrych ar ein gilydd ac heb angen yngan yr un gair, sut yn y byd y gadawodd un mor fechan fwlch mor anferth ar ei hôl?

Mae’n anodd credu fod blwyddyn wedi mynd ers i ni, fel Merched y Wawr Dinbych a’r Cylch, a nifer o gymdeithasau tebyg gynnal y cyfarfodydd misol “yn y byw”.  Mae’r cyfnod wedi bod yn heriol iawn i nifer o gymdeithasau ac unigolion trwy’r wlad i gyd, ond gyda dyfodiad y brechlyn, gobeithio y gwneith y cyfnod hyn gilio ac y byddwn yn gallu symud ymlaen i rhyw fath o normalrwydd newydd.  Pwy feddylia flwyddyn yn ol y buasai y gair “Zoom” yn rhan o’n geirfa dyddiol?  Mae’r mudiad yn Genedlaethol wedi bod yn cynnal gweithgareddau amrywiol i ni allu ymuno â nhw os oeddem yn dymuno.  Bu’r Wyl Genedlaethol, a’r Ffair Aeaf yn rhithiol hefyd.

Mae nifer o aelodau ein cangen ni wedi bod yn cyfarfod yn rhithiol dros y misoedd dwytha hefyd, ac yn hynod ddiolchgar i’r swyddogion am drefnu hyn.  Rydym wedi cael noson cwis, dathlu’r Nadolig gyda Caryl Parry-Jones yn rhithiol, gyda Caryl yn hel atgofion a straeon am y nadoligau pan roedd hi yn blentyn, gyda nifer ohonom ni yn gallu uniaethu hefo hi a’i hatgofion.  Ym mis Ionawr cawsom noson arall yng nghwmni Cadi Mars Jones yn son am ei gwaith, a’i bod yn fyfyrwraig yng Nghaerdydd ar hyn o bryd ond ar gyfnod allan yn gweithio yn y Bala yn creu cacennau ar gyfer yr archfachnadoedd. Mae ganddi dudalen ar Facebook o’r enw Blas, gyda ychydig o syniadau ar gyfer creu danteithion sawrus a melys. 

Edrychwn ymlaen i ddal i gyfarfod a chadw’r cysylltiad hefo’n haelodau, boed yn rhithiol neu fel arall, ac rydym yn hynod ddiolchgar I’r swyddogion am drefnu’r nosweithiau yma i ni.  Cofiwch y gallwch ddal ymuno hefo Merched y Wawr os ydych yn dymuno trwy gysylltu hefo unrhyw un o’r Swyddogion.