Y Bigwn

Bob tro bydda i’n golygu Y Bigwn mi fydda i’n edrych yn ôl i weld pa berlau oedd yn fy ngolygyddol cynt! Gorffennaf 2020 oedd hynny ac roedd pethau’n dechrau llacio fymryn a’r golau ym mhen draw’r twnel yn sbecian arnom ni. Ond cawsom ein twyllo ganddo ac aeth y twnel yn dywyllach a’r daith at normalrwydd yn hirach.

Dyma ni bellach dri mis i mewn i 2021 ac rwy’n ysgrifennu fy mhwt golygyddol ar bnawn Sul braf. Buom am ein tro dyddiol efo Meg y ci bore ‘ma ac roedd hi’n fore gogoneddus. Roedd adar bach y perthi yn canu o’i hochr hi - amser priodas yr adar yn ôl ffrind – eirlysiau a briallu yn y cloddiau a’r llwyni’n blaguro. Roedd hwyliau da ar bawb a welsom ar ein taith hefyd, fel petai’r cwbl yn darogan dyddiau gwell i ddod. A dichon y dônt yn sgil y brechlyn sy’n brysur gael ei ddosbarthu i bawb. Gwn fod llawer ohonoch wedi’i gael yn barod ac fe ddaw fy nhro i cyn bo hir.

A be’ wedyn? Beth sydd flaenaf ar eich rhestr? Cael gweld teulu a ffrindiau yn y cnawd mae’n debyg. Mae Zoom a’i debyg wedi bod yn fendith, does dim gwadu, ond mae mwy i berthynas na’r hyn gewch chi ar sgrîn. Drwy Zoom a’i debyg y gwnawn bopeth bellach. Dyma ydy ein Sul, gŵyl a gwaith!

Ond ara deg y mae dal iâr a brechlyn neu beidio allwn ni ddim mynd yn ôl i’r hyn a fu mewn un naid. Blwyddyn union yn ôl ar ddydd Gŵyl Dewi y bûm i mewn cyfarfod torfol ddiwethaf, mewn digwyddiad hwyliog gan Bryn Williams ym Mhorth Eirias i godi arian at Eisteddfod yr Urdd. Dyna i chi newid byd. Roedd y lle dan ei sang, y bwyd yn fendigedig, yr arian yn llifo i goffrau’r Eisteddfod, côr yn ein diddanu a sgwrs ddifyr efo hwn a’r llall. Oes angen dweud mwy?

Plac Mainc Enfys

Plac Mainc Enfys

Mainc Enfys

Mainc Enfys

“Byddwch lawen a hyfryd a gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf fi” ydy pregeth fawr Dewi Sant a pha gwell amser i gofio’r bregeth fawr yma na rwan. Gallwn oll geisio bod yn llawen ac yn hyfryd ac mae llawer wedi bod yn gwneud y pethau bychain sydd wedi hwyluso bywydau pobl yn ystod y pandemig yma. Mae ein dyled yn fawr iddyn nhw ac yn arbennig i’r gweithwyr allweddol sydd wedi mynd yr ail filltir mewn adeg anodd iawn. Arwydd bychan o’n gwerthfawrogiad yma yn Ninbych yw’r fainc liwgar o flaen siop Tŷ Gobaith.

Diolch bawb a chadwch yn ddiogel.

Angharad Rhys