Y Bigwn

PIGION <PIGION< PIGION< PIGION<

Pythefnos Masnach Deg 22 Chwefror – 7 Mawrth 2021.

Yn ystod y bythefnos yma, mae Masnach Deg yn tynnu sylw at yr heriau cynyddol mae ffermwyr a gweithiwyr yn y cymunedau y mae Masnach Deg yn gweithio gyda hwy yn eu hwynebu oherwydd y newid yn yr hinsawdd

https://fairtradewales.com/we/fairtrade-fortnight-2021-is-here

Be’ am drio’r rysait yma  Cacen Siocled a Tahini 

https://fairtradewales.com/we/fairtrade-chocolate-and-tahini-cake-recipe

Cymorth Cristnogol 

Rydym i gyd yn ddiolchgar am ein brechlyn. Beth am ddiolch mewn ffordd ymarferol a chyfrannu at waith Cymorth Cristnogol? Mae gwaith ein partneriaid o gefnogi’r rhai sy’n dal i ddisgwyl cael eu brechu’n parhau.  Dyma hanes Shima

https://www.christianaid.org.uk/give/ways-donate/give-thanks-your-coronavirus-vaccine

Gallwch gyfranu i Cymorth Cristnogol Pwyllgor Dinbych ar lein -  Banc - HSBC  UK, Dinbych     Cod - 40-19-12     Cyfrif -  01012118      

Enw   -  Cymorth Cristnogol  - Cangen Dinbych

Mae rhifyn diweddaraf o gylchgrawn Cymorth Cristnogol allan – ac ar gael yn ddigidol! Darllenwch, gweddïwch, a rhannwch ag eraill. https://issuu.com/christian_aid/docs/christian_aid_magazine_spring_2021?fbclid=IwAR2ho0sVNfJtGzaxDXLhXuQLBGwPzREXm7qyoBZVJavtGVhdXHJVdvTiWBA

Lansio cynllun gwirfoddoli digidol i helpu pobl i fynd ar y We 

Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, Cymunedau Digidol Cymru a Cyngor Sir Ddinbych wedi dod ynghyd i lansio cynllun gwirfoddolwyr digidol yn y Sir i gynorthwyo’r trigolion sydd angen cymorth gyda thechnoleg digidol. Mae technoleg yn gallu newid bywyd, yn gallu helpu pobl i fod yn fwy annibynol ac yn hwb i iechyd  meddwl ac mae’r cyfeillion digidol wedi cael eu recriwitio i gynnig cymorth angenrheidiol iddynt dros y ffon

Fe fydd y Cyfeillion Digidol yn dechrau cynorthwyo pobl dros y ffôn fis nesaf. Un o’r gwirfoddolwyr yw Keith Jones: "Mae yna berygl fod rhai pobl yn cael eu gadael ar ôl. Mae hyn wedi dod yn fwy amlwg yn ystod y pandemig. Dwi eisiau defnyddio fy sgiliau i gynorthwyo”. 

Os ydych yn gwybod am berthynas neu ffrind sydd wedi derbyn tabled neu ffôn clyfar dros y Nadolig ac angen cymorth ar sut i’w ddefnyddio, mae’r cynllun hwn yn awyddus i glywed gennych er mwyn eich paru gyda chyfaill digidol. 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch gyda Gareth Jones ar 01824 702441 neu ebostio  Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Dementia Gyfeillgar Dinbych 

 Mae Pwyllgor Dementia Gyfeillgar Dinbych wedi prynu Alexa i gartrefi gofal lleol sy’n cefnogi pobol sy’n byw gyda dementia. 

Gall cerddoriaeth, yn enwedig canu ddatgloi atgofion ac yn help i gyfathrebu.  Mwy am hyn yn y rhifyn nesa’. 

Cynhadledd Alzheimer’s Society Cymru

Mae Alzheimer’s Society Cymru wedi ail-drefnu cynhadledd 2020 ar gyfer yr 17eg-y 18fed o Fawrth, 2021. Mi fydd yn ddigwydd ar-lein a dyma’r linc i gofrestru.

https://www.alzheimers.org.uk/dementia-professionals/conferences-and-events/cymru-cynhadledd-2021

 

Tŷ gwydr ar gael am ddim i gartref da

Tŷ Gwydr

 

Tŷ Gwydr

 

8tr x 6tr (mewn hen bres)

Mewn cyflwr reit dda ond angen ychydig o sylw ac ambell ddarn newydd o wydr.

Wedi’i dynnu’n ddarnau ond angen ei gasglu.

Cysylltwch ag Aled ar 01745 813259 neu 07771747193

 

Mae’r gyfres radio Hawl i Holi yn ei hôl!

Er nad oes cyfle i deithio i gymunedau Cymru ar hyn o bryd, mae’r rhaglen Hawl i Holi yn ei hôl. Dewi Llwyd sy’n cyflwyno, herio a chadw trefn ar 4 panelydd. Gan ddarlledu yn fisol ar Radio Cymru rydym yn awyddus iawn i glywed gan gyfranwyr o bob rhan o’r wlad. Os oes gennych chi gwestiwn neu bwnc yr ydych chi am i’n panelwyr ymateb iddo byddem wrth ein boddau’n clywed gennych.

Bydd y rhaglenni nesaf ar Fawrth 4ydd, Ebrill 1af ac Ebrill 29ain am 6 yr hwyr.

I gysylltu mae modd ffonio 03703 500700 yn ystod oriau gwaith neu e bostio Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

poster canu o'ch cartref