
Yn hanesyddol, adeiladwyd colomendai drwy’r byd i gyd. Roedd colomennod yn ffynhonnell werthfawr o fwyd.
Ymddengys mai’r Normaniaid a gyflwynodd golomendai i Brydain yn eu cestyll yn y 12fed a’r 13eg Ganrif. Ni fyddai’r tirfeddianwyr mwy, yr eglwysi na’r abatai yn caniatáu i ffermwyr na gwerinwyr gael colomendai. Roeddent yn gwarchod eu pyllau pysgod, eu cwningaroedd a’u colomendai yn ofalus gyda chiperiaid.
Oherwydd natur Colomennod y Graig (Columba Livia), y datblygodd y colomennod ohonynt h.y. eu greddf i ddychwelyd a’u nythu parhaus, anogwyd pobl i ddarparu lleoedd nythu hygyrch ar ffurf colomendai. Byddai lle i gannoedd o adar yn y rhain a chaent eu hadeiladu mewn amrywiaeth o ddulliau pensaernïol. Cafodd y rhai mwyaf diweddar eu hadeiladu yn null cartrefi gwledig y boneddigion eu hunain.
Daw tystiolaeth ddiddorol o’r lle a elwir erbyn hyn yn Ystâd Ddiwydiannol Colomendy, Dinbych. Colomendy oedd lleoliad fferm fawr o eiddo teulu’r Hooson ar ddechrau’r 1900au ac fe’i darluniwyd mewn llyfr gan Mr George Hooson o’r enw ‘The Memoirs of a very Fortunate Man’. Disgrifiodd y colomendy fel palas o fric i ddarparu pantri byw gyda lle i 350 o adar. Nid oedd hyn yn boblogaidd gyda thyddynwyr lleol gan fod yr adar yn dwyn eu cnydau.
Ar un adeg roedd gan dai ar Stryd y Dyffryn erddi hir, stablau a thai allan ynghyd â gerddi llysiau a pherllannau. Adeiladwyd bythynnod yn y gerddi ar gyfer garddwyr, bechgyn stabl a gweision eraill. Byddai’r boneddigion yn mynd i mewn i’w tai drwy’r drws ffrynt ar Stryd y Dyffryn a byddai’r gweision yn mynd â’r ceffylau a’r cartiau i gefn y tŷ.

Buarth Tafarn yr Hawk and Buckle
Yn ystod gwaith atgyweirio diweddar ar dai allan hen dafarn yr Hawk and Buckle ar Stryd y Dyffryn, datgelodd ochr allan rhan uchaf blaen bric dau o’r adeiladau bron i 100 o dyllau colomennod.
Roedd tafarn yr Hawk and Buckle ynghyd â’i fuarth a’i stablau, sy’n ymestyn i Lôn Ganol, yn ganolbwynt gweithgaredd yn Ninbych ar adeg teithio gyda cheffyl a chart. Mae Lôn Postws, a elwid ar un adeg yn Postings Lane, yn cysylltu Stryd y Dyffryn a Lôn Ganol, ac roedd yn fan lle gallai cartiau a theithwyr droi mewn i fuarth stablau’r Hawk and Buckle. Yma byddent yn cael ceffylau newydd, lluniaeth a llety.
Cymerwyd y colomennod ifanc a elwid yn ‘squabs’ cyn iddynt allu hedfan a phan oedd y cnawd yn dyner. Roedd gwerth hefyd i’r wyau ac i’r baw colomennod. Golygai newidiadau cymdeithasol graddol bod mwy o golomendai’n cael eu hadeiladu. Defnyddiwyd y ‘squabs’ fel cyflenwad hawdd a chyson o brotein gan nad oedd digon o gig ffres ar gael o’r tir. Nid oedd amaethwyr wedi datblygu system o borthiant gaeaf ar gyfer gwartheg a moch. Nid oedd digon o fwyd yn cael ei gynhyrchu ar gyfer poblogaeth a oedd yn tyfu. Roedd poblogaeth wledig a oedd yn byw yn yr 17eg-18fed Ganrif yn byw yn bennaf ar fara, caws a chigoedd wedi’u halltu.

Colomendy Grovehurst, Lon Ganol
Mae tŵr bric yn Lôn Ganol. Roedd hwn yng ngardd tŷ mawr ar Stryd y Dyffryn y dywedir i Thomas Shaw Recorder o Ddinbych fyw ynddo yn 1717. Ailfodelodd dŷ o gyfnod Elisabeth a chanfuwyd olion ohono yn yr ardd sy’n ymestyn o Stryd y Dyffryn i Lôn Ganol.
Disgrifir y tŵr sgwâr yn yr ardd fel bod o’r 17eg Ganrif. Ystafell ardd oedd y porth isaf, a cholomendy, dyddiedig 1650, oedd y porth uchaf. Mae’r tyllau colomennod y tu mewn.
Mae’n ddiddorol nodi pwysigrwydd colomennod fel rhan o ddeiet. Roedd Dinbych yn ganolfan fasnach ac roedd nifer fawr o bobl yn teithio o ardaloedd cyfagos i farchnadoedd Dinbych.

Tyllau Colomenod Grovehurst
Yn Saesneg, y gwahaniaeth a roddir rhwng ‘pigeon’ a ‘dove’ yw bod ‘pigeon’ yn byw ar greigiau a ‘dove’ yn byw mewn coed. Cafodd y colomennod crwydr, a fu unwaith yn llenwi awyr yr Amerig, eu difa yn 1800. Cafodd miloedd eu saethu bob dydd a’u halltu fel bwyd ar gyfer y gaeaf. Yn lleol, mae colomendai i’w gweld yn Llanelwy, Parc Cinmel, Bodelwyddan ac Erddig, Wrecsam.
Ysgrifennodd George Borrow yn ei lyfr ‘Journeys in Wales’ am y tyrrau colomennod carreg ger y cestyll (cerdd i Sycharth, Sychnant).
Norman Makinson 2009
