Y Bigwn

Mae Popeth Cymraeg yn Ninbych wedi bod yn darparu gwersi Cymraeg i oedolion ers 1988. Er gwaethaf holl bryderon ac anawsterau 2020, nid yw covid-19 wedi ein hatal rhag parhau â’r gwaith holl bwysig yma.

Yn sgil y pandemig, bu rhaid i ni addasu’n gyflym iawn i addysgu ar-lein dros blatfform Zoom, roedden ni’n llythrennol yn dysgu am y dechnoleg newydd wrth fynd yn ein blaenau, fel sawl un arall dw i’n siwr. Roedden ni eisiau sicrhau bod y gwersi Cymraeg yn parhau ac ein bod yn gallu cadw cysylltiad rheolaidd â’r dysgwyr, neu ‘siaradwyr newydd’ yn ôl Radio Cymru bellach. Parhaodd y gwersi a’r cymdeithasu all-gyrsiol yn ddigon di-drafferth drwy gydol yr haf.

Erbyn hyn, a ninnau yn dod tuag at derfyn tymor addysgol prysur, rydym yn falch o ddweud bod y brwdfrydedd i ddysgu Cymraeg yn parhau gyda niferoedd calonogol o ddysgwyr yn derbyn gwersi ar-lein. Gan ein bod yn dysgu dros y we, mae ein dalgylch wedi tyfu’n aruthrol. Yn hytrach na chynnig gwersi yn Sir Ddinbych yn bennaf, mae gennym ddysgwyr bellach ar hyd a lled Cymru, o Loegr, Ffrainc ac o Ganada. Mae dysgu Cymraeg yn rhyngwladol iawn erbyn hyn ac yn beth positif iawn sydd wedi datblygu yn sgil y pandemig.

Braf ydy cael adrodd am lwyddiant dysgu Cymraeg, gan y gwyddom nad ydyw wedi bod yn hawdd i sefydliadau a mudiadau eraill ar draws Cymru. Rydym ar y trywydd cywir i gyfrannu tuag at y targed cenedlaethol o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Os ydych yn adnabod rhywun sydd â diddordeb mewn dysgu Cymraeg, bydd gennym gyrsiau newydd yn cychwyn mis Ionawr 2021. Mae croeso mawr i chi gysylltu â ni drwy ebost Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. neu drwy ffonio’r swyddfa 01745 812287, rydym hefyd ar Facebook a Trydar @popethcymraeg.

Lowri Ellis, Tiwtor Cymraeg i Oedolion

Llwyddiant dysgu Cymraeg