Y Bigwn

Mae cataract yn enw sy’n gyfarwydd i’r rhan fwyaf ohonom ni fel rhyw fath o nam ar y llygad. Ond ydych chi’n gwybod yn union beth ydi o? Fel y gwyddoch, mae’r llygad yn gweithio’n debyg iawn i gamera : mae golau’n mynd i mewn i’r llygad ag yn pasio trwy’r gornbilen, cannwyll y llygad, a’r hylif dyfrllyd ym mlaen y llygad, cyn cyrraedd y lens. Yna mae’r lens yn plygu’r pelydrau golau fel eu bod yn ffocysu ar y retina yng nghefn y llygad, ag o’r retina mae’r nerf optig a’r ymennydd yn dehongli’r ddelwedd. Mae cataractau’n ddarnau cymylog sy’n datblygu ar lens y llygad, gan effeithio ar olwg y dioddefwr.

Mae cataractau’n datblygu pan mae cynnydd mewn protein yn y lens – dyma sydd yn gwneud iddo gymylu a rhwystro’r golau rhag pasio’n rhwydd drwyddo, gan achosi nam ar y golwg. Mae yna bedwar gwahanol fath o gataract:

  • Cataract sy’n gysylltiedig a henoed;
  • Cataract sy’n datblygu mewn babanod o ganlyniad i haint yn y groth;
  • Cataract sy’n datblygu o ganlyniad i gyflwr arall e.e. clefyd siwgr;
  • Cataract sy’n datblygu yn dilyn niwed i’r llygad.

Ffactorau  eraill a all gynyddu tebygolrwydd unigolyn o ddatblygu cataract yw mwg sigarets, llygredd yn yr aer ac yfed gormod o alcohol.

Dyma restr o’r symptomau sy’n gysylltiedig a’r cyflwr:

  • Mae’ch golwg yn mynd yn gymylog neu’n niwlog;
  • Rydych chi’n mynd yn fyr eich golwg yn sydyn;
  • Rydych chi’n dechrau gweld lliwiau, yn enwedig melyn, yn wahanol;
  • Rydych chi’n cael trafferth gyrru gyda’r nos – mae’r cyferbyniad rhwng y tywyllwch a’r goleuadau’n eich dallu;
  • Mae unrhyw olau yn ymddangos yn rhy llachar i chi;
  • Rydych chi’n dechrau gweld yn ddwbl;
  • Mae’ch golwg agos yn gwella’n syfrdanol, ond dim ond dros dro.

Mae yna brofion digon syml erbyn hyn i gadarnhau’r broblem. Weithiau, os yw lefel y golwg yn dderbyniol, efallai mai dim ond gwisgo sbectol fydd angen i’r dioddefwr ei wneud, ond os yw’r cyflwr yn effeithio ar fywyd y person o ddydd i ddydd, llawdriniaeth yw’r ateb. Fel arfer, mae hon yn driniaeth sydyn a didrafferth, ac ni fydd angen i’r claf aros yn yr ysbyty dros nos. Yn wir, o fewn pedair awr ar hugain, mi fydd popeth fel ag yr oedd cyn i’r cataract ddatblygu.

Emyr Wynne Evans     

 (o gyfres Modfeddi Meddygol, ar ran Fferyllwyr Llyn – gyda chaniatâd)