Y Bigwn

Map lleoliad Clytiau Gleision

Map Clytiau Gleision

Englynion a Cherddi
Dafydd Jones, Clytiau Gleision

Englynion

Yn y gyfrol ceir englynion o bob math i bob achlysur. Gŵr diymhongar oedd Dafydd Jones na fynnai gyhoeddi ei waith, gan dybied y dyliai englyn fod yn ddigon da i’w chofio os oedd o werth.
Mae’r englyn yma i nyrsys ar ôl cael triniaeth yn enghraifft rhagorol o’i waith ac yr un mor berthnasol y dyddiau hyn, fel erioed.


I gell y gyllell a’r gallu, - yna’n ôl
Yn ward y gofalu;
Yr oedd o hyd ar awr ddu
Angylion wrth fy ngwely.

 

 

Clytiau Gleision

Clytiau Gleision

Angylion wrth fy ngwely, gwych iawn.
Serch hynny mae’r llyfryn yma wedi casglu ei waith at ei gilydd er mwyn cofnodi’r rhain ac hefyd i gofnodi cyfnod ac ardal lle yr oedd y gynghanedd yn ffordd o gyfathrebu ym Mro Hiraethog.
Braint yw cael rhoi yr englynion yma ar gof a chadw. Dyma enghraifft arall o’i waith:

Siou Gŵn Bryntrillyn

Heno am Siou y soniwn – am hin haf
I’w mwynhau gobeithiwn,
A melys f’ai gweld miliwn
Ar y cae yn gwylio’r cŵn.

Mae yn siwr mai siou y dywedid ar lafar nid sioe,
Felly siou amdani!

 

Dafydd Jones

Dafydd Jones

Mae’r gyfrol yma yn cynnwys nifer helaeth o englynion, ymysg mwy, oedd wedi eu cadw gan Rhian, merch Dafydd Jones. Yn aml roedd yr englynion ar bytiau o bapur ac y maent yn gofnod eithaf da o fywyd cefn gwlad yn y ganrif ddiwethaf. Petaech yn dymuno copi mae copïau ar gael yn Siop Clwyd, Dinbych neu cysylltwch gydag Arwel Emlyn Jones:

E-bost: Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Ffôn symudol 07717617022
Cyfeiriad: Penbryn, 1 Maes y Dre, Rhuthun,
Sir Ddinbych, LL15 1DB