Tachwedd 11eg 2020

Ceinwen yn ymddeol
Mae Ceinwen yn ymddeol ar ôl 29 mlynedd hefo’r Gwasanaeth Llyfrgell a 37 mlynedd yn gyfan gyda’r Cyngor. Cychwynnodd ei gyrfa yn gweithio yn Ysgol Henllan, cyn dod i Lyfrgell Dinbych yn rhan amser yn 1991. Symudodd yn fuan wedyn i weithio i Lyfrgell Ysgol Glan Clwyd tan 2004 pan ddychwelodd i Lyfrgell a Siop Un Alwad Dinbych ar ôl ei phenodi yn Gymhorthydd Llyfrgell a Siop Un Alwad yn llawn amser ac aros tan ei hymddeoliad.
Bu nifer o newidiadau o ran staff a systemau llyfrgell, croesawodd Ceinwen bopeth ddoth i’w rhan gan ddarparu gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid Dinbych a’r ardal. Mae ei dylanwad wedi bod yn fawr yn y gweithle gan arbenigo yn y maes hanes lleol gan gadw trefn arbennig ar y casgliad o ddeunyddiau a stoc yn y llyfrgell. Bu’n gyfrifol am gasglu holl ddarnau gosod yr Urdd ar gyfer rhieni, athrawon a hyfforddwyr am flynyddoedd. Byddai hefyd yn darparu gwybodaeth a thaflenni ar gyfer twristiaid a gwneud yn siŵr bod cyflenwad o amserlenni bws ar gael bob amser. Byddwn wir yn colli ei harbenigedd a’i gwybodaeth drylwyr, bydd bwlch mawr ar ei hôl.
Diolch mawr i Ceinwen am ei gwasanaeth clodwiw yn ystod ei hamser yn Llyfrgell Dinbych, buom fel un teulu yn cydweithio’n hapus. Dymunwn ymddeoliad hir a dedwydd a chyfle rŵan i fwynhau amser gwerthfawr gyda’r wyrion Jacob ac Ana Gwilym!
