Y Bigwn

logo Gwefr heb Wifrau

Gwefr heb Wifrau

logo cwmulus

 

 

www.gwefrhebwifrau.cymru

https://cwmulus.org/

Dilynwch ni ar     

Yn ystod y pandemig mae Amgueddfa Gwefr heb Wifrau wedi troi at dechnoleg fodern i hyrwyddo’r gwaith ac i gysylltu â sefydliadau a chymdeithasau eraill yng Ngogledd Cymru a thu hwnt.  Mae’r grwpiau yma yn ddiolchgar iawn am y cysylltiad a dyma sut y cychwynnwyd Cwmulus.  Nod Cwmulus, o dan nawdd Gwefr heb Wifrau, yw darparu darlithiau, ac adnoddau cynhyrchu ac hyfforddiant, i unrhyw gymdeithas sydd am gadw cysylltiad â’u haelodau ac â’r byd tu allan yn ystod y cyfnod rhyfedd hwn.  Os gall Cwmulus fod o gymorth i chi, cysylltwch â’r wefan uchod.

 

Bu'r sgwrs Gymraeg gyntaf dan faner Cwmulus yn hynod o lwyddianus gyda 41 o bobl wedi ymuno i wrando ar y sgwrs  ddiddorol iawn am Ynni Ogwen gan Gareth Jones, Cadeirydd Ynni Ogwen ac arbennigwr yn y maes ynni hydro.

Dyma’r darlithiau a drefnwyd ar gyfer y misoedd nesaf: 

Ar 11.12.2020, bydd gwneuthurwr-ffilm Dinbych, Tony Griffiths, yn cyflwyno première ei waith diweddaraf, Straeon a Chwedlau o Ogledd Cymru.  Mae'r ffilm yn cynnwys straeon ysbrydion, llofruddiaethau, arwyr, dihirod, dihangfa feiddgar Carcharorion Rhyfel, a digwyddiadau goruwchnaturiol rhyfedd, y cyfan wedi’u ffilmio yn erbyn cefndir hardd y lleoliadau gwreiddiol.

Radio Dansette

Radio Transistor RT 111 Dansette

Ar 22.01.2021 bydd Ian Cook yn sôn am Gerbydau Trydan.  Bydd hon yn sgwrs o ddiddordeb cyffredinol, ac yn amserol iawn gan fod y Llywodraeth wedi cyhoeddi diwedd cynhyrchu cerbydau tanwydd ffosil yn 2030.

Ar 12.02.2021, bydd Mike Farnworth yn siarad am Cantre’r Gwaelod, yr Atlantis Cymreig.  Bydd yn adrodd stori Cantre'r Gwaelod ac yn ystyried sut gallai’r stori fod wedi tarddu, sut mae hi wedi parhau yng nghof y genedl, a sut byddai pentref yng Nghymru fodern yn diflannu yn yr un ffordd.

Bydd y sgyrsiau hyn trwy gyfrwng y Saesneg ac yn cychwyn am 7.00 y.h. Rhaid cofrestru o flaen llaw - edrychwch ar y gwefannau uchod neu ar dudalen Facebook Gwefr heb Wifrau am fanylion.

Dyma lun i brocio’r cof. Radio Transistor RT 111 Dansette, a gynhyrchwyd yn Llundain yn 1959.
Hoffai pawb yn yr Amgueddfa ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i ddarllenwyr Y Bigwn. Diolch o galon i chi am eich cefnogaeth dros y blynyddoedd.