
Clwb Rygbi Dinbych

Un cysondeb ym mywydau chwaraewyr rygbi yn 2020 ydi’r anghysondeb o safbwynt ymarfer! Ar ôl dim ymarfer o Fawrth tan Awst, bu ymarfer ar gael am dros fis yn Medi a Hydref. Yn Hydref a Tachwedd bu fis o gicio sodlau wrth i’r cau lawr ail-gydio. Canol Tachwedd, dychwelodd chwaraewyr o bob tîm y Clwb i ymarfer, gyda thimau’r dynion, er mwyn hybu diddordeb gyda'r chwaraewyr, yn sefydlu cystadleuaeth wythnosol ‘rygbi cyffwrdd’ (touch rugby). Ymateb hynod o bositif.
Oddi ar y cae chwarae, mae’r pwyllgorau wedi cadw’n brysur. Gyda’r newidiau yn sefyllfa’r Clwb - dim gemau swyddogol a dim digwyddiadau yn y Clwb - penderfynwyd ei fod yn amser addas i adolygu Cynllun Datblygu’r Clwb. Mae’r grŵp wedi bod yn brysur iawn gyda nifer o syniadau wedi eu ystyried ac yn cael eu cyflwyno fel Cynllun Busnes i bwyllgor gwaith y Clwb, a fydd gyda’r penderfyniad terfynol.
Mae grŵp arall sydd wedi cadw'n brysur wrth iddynt gasglu dogfennau pwysig y Clwb at ei gilydd a sicrhau eu bod yn cael eu cofnodi’n ddigidol.
Ar nos Lun, 23ain Tachwedd bu rhaglen Tŷ Rygbi yn ymweld â’r Clwb i drafod effaith o fod dan glo ar fywyd y Clwb. Mae’r rhaglen ar S4C am 8.00 y.h. nos Wener, 27ain Tachwedd.
Tegid Phillips
