Y Bigwn

clwb rygbi dinbych

Clwb Rygbi Dinbych

clwb rygbi dinbych

 

Teyrnged i Mike Hargraves

Daeth y datganiad isod o Glwb Rygbi Dinbych:

“Gyda thristwch mae’r Clwb yn cyhoeddi marwolaeth Mr Michael Hargraves, un oedd yn uchel ei barch o fewn y Clwb. Dechreuodd Michael, neu Mike i’r rhan fwyaf ohonom, ei gysylltiad â Chlwb Rygbi Dinbych ar ddechrau'r 2000au. Bu’n cynorthwyo ei wraig Bobbie fel Stiward y Clwb, ac roedd eu gwaith caled ac ymroddedig yn sicrhau fod croeso cynnes i'r rhai a ymwelodd â Chaeau Les Phillips yn ystod eu cyfnod wrth y llyw. Ar y cae bu Mike yn hyfforddi grwpiau oedran Dan 10 i 16 ac roedd yn ymfalchïo yn y ffaith fod ei feibion Gareth a Geraint wedi cynrychioli’r Clwb. Roedd Mike hefyd yn ffigwr allweddol y tu ôl i'r llenni mewn amrywiaeth o brosiectau i ddatblygu cyfleusterau'r Clwb. Sicrhaodd Mike bartneriaeth noddi gyda’r busnes lleol Denbigh Building Plastics, ac fe welodd hyn  y Clwb yn moderneiddio ac yn datblygu’r cyfleusterau gwych sydd gennym heddiw. Cymro balch, cefnogwr brwd o Everton a chyn-aelod o’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, roedd Mike hefyd yn ŵr bonheddig o’r radd flaenaf, a bydd colled fawr ar ei ôl yng Nghlwb Rygbi Dinbych a sawl man arall. Ar ran y Clwb, mae ein cydymdeimlad diffuant yn mynd allan i Bobbie, Gareth, Geraint a'r teulu oll.”


Mike Hargraves

Mike Hargraves

Roedd Mike a’i wraig Bobbie’n gefnogol iawn i’r iaith Gymraeg o fewn y Clwb, er fod fawr o Gymraeg gan yr un ddau.  Fe ddaeth cais yn aml gan Mike yn gofyn i mi gyfieithu rhyw arwydd neu’i gilydd cyn ei arddangos yn y Clwb.  Bydd llawer o’n darllenwyr yn cofio’r croeso cynnes a roddwyd gan y ddau ohonynt mewn nifer o weithgareddau codi arian tuag at Eisteddfod Genedlaethol 2013, yn ogystal â gweithgareddau grwpiau fel Cymdeithas Y Bigwn a llawer iawn mwy. Roedd Mike hefyd yn gyfaill i’r Bigwn, gyda chopïau o’r papur ar werth bob mis wrth y bar.  Cyn ymuno â chwmni newydd Denbigh Building Plastics fel Cyfarwyddwr Gwerthiant yn 2007, roedd wedi sylwi, wrth fynd o dŷ i dŷ fel cynrychiolydd o gwmni mawr cenedlaethol, ar gopïau o’r Bigwn ar nifer o aelwydydd,  Unwaith iddo gychwyn yn ei swydd newydd, roedd yn awyddus iawn i hysbysebu yn ein papur.  A, fel y gwyddoch, fe ymddangosodd hysbyseb bob mis ers hynny, yn cynnwys nifer o rai tudalen lawn, gan ddod ag incwm defnyddiol dros ben i goffrau’r Bigwn dros y blynyddoedd.

Talwyd y deyrnged olaf i Mike gan nifer fawr o bobl ar Stâd Colomendy, y tu allan i’r Clwb Rygbi, ei weithle a thrwy’r dref, llawer ohonynt yn gwisgo crysau glas Everton neu rhai coch Cymru, adlewyrchiad o’r parch mawr oedd gan bawb yn ein cymuned tuag at Mike – un o’r gorau.

 

John Davies