Mae gen i gyfaddefiad i’w gwneud. Ydw, mi rydwi’n prynu a darllen y Radio Times. Na, dydy o ddim y cylchgrawn mwyaf radicalaidd ar y farchnad, ond mae ynddo erthyglau digon difyr a chroesair sydd o fewn cyrraedd fy ngwybodaeth gyfyngedig.
Ond yr hyn wnaeth ddal fy sylw mewn rhifyn diweddar oedd llythyr gan wraig o Groesoswallt. Rhaglen am dlodi mewn ardaloedd gwledig yng Nghernyw oedd ganddi dan sylw, ac roedd hi’n canmol agwedd realistig y cyflwynydd at ei destun.
Ychwanegodd fod llawer o raglenni yn annog pobl i fudo o’r dref i’r wlad tra bod pobl leol yn methu â phrynu eiddo mewn ardaloedd lle bu’u teuluoedd yn byw ers canrifoedd.
Roedd pob ardal wledig yn wynebu anawsterau dybryd, meddai, oherwydd dirywiad diwydiannol, cyflogau isel a diweithdra. Ond roedd Cymru, ychwanegodd, yn wynebu’n ychwanegol ddirywiad yn y nifer o siaradwyr Cymraeg yng nghefngwlad gan roi’r iaith mewn perygl.
Ar derfyn ei llythyr, mae’r wraig yn apelio ar i rai sydd yn gwneud rhaglenni o’r fath ystyried o ddifrif cyn cynhyrchu rhywbeth sy’n hyrwyddo ymddygiad sydd yn achosi cynifer o anawsterau mewn ardaloedd ble nad oes tai fforddiadwy.
Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach fe ddarllenais am bryderon trigolion Pen Llŷn a Nefyn yn arbennig, a gweld llun o dŷ a fu unwaith yn dŷ cyngor ar y farchnad am bris afresymol ac anfoesol - £385,000.
Do, mi rydwi wedi gwylio rhai o’r rhaglenni hyn, a’r hyn sydd yn taro rhywun ydy’ mai brics a mortar a lle bach del sydd ar feddyliau’r bobl hyn sydd am ddianc o’r dinasoedd. Does yna ddim sylw yn cael ei roi ganddyn nhw i destunau fel bod yn rhan o’r gymuned a faint o dreth fyddan nhw ar adnoddau lleol.
Mae’n rhaid nad ydyn nhw erioed wedi cael y teimlad o berthyn i gymuned - rhywbeth sydd mor nodweddiadol o gefngwlad, pentrefi a threfi llai – ac nad ydy’ teulu, cymdogion a chyfeillion yn bwysig ganddyn nhw.
O am y fath dristwch.
Erbyn y byddwch chi’n darllen y geiriau hyn bydd y dydd yn dechrau ymestyn unwaith eto, ac fe fydd hynny yn gyfrwng i godi ysbryd llawer ohonom.
Efallai bydd hi’n rhewllyd a haenen drwchus o eira ar y llawr, ond fe fydd hi’n oleuach yn y bore a’r prynhawn, a bydd y gwanwyn ar ei ffordd. Ac yn bwysicach fyth, fe fydd brechlyn ar ei ffordd i bob un ohonom, a gobaith am fywyd ychydig yn fwy normal.
Ond cofiwch nad ydy’r frwydr yn erbyn y pandemig hwn drosodd eto. Yn wir, y mae hi ymhell o fod drosodd. Cymerwch ofal a chadwch yn ddiogel.
Stan Lyall
