Y Bigwn

Un o’r pynciau pwysicaf yr ydym yn rhoi hyfforddiant yw diogelwch ar y We – pwnc sy’n cael ei ystyried yn allweddol wrth helpu pobl i fagu hyder ar y We. Mae’r cyfnod pandemig wedi denu twyllwyr o bob math i gymryd mantais ar bobl hŷn yn arbennig. Ym Mhrydain yn 2019-20, llwyddodd twyllwyr i ddwyn £5.4 miliwn gan bobl ar y We a dyma faes sy’n profi’n ffrwythlon i ddrwgweithredwyr oherwydd ein bod yn gwneud mwy a mwy ar y We erbyn hyn. Yn union fel dysgu gyrru, mae’n bwysig eich bod yn dilyn arfer da ar y We – mae’r ffaith eich bod yn gallu gyrru car yn agor posibiliadau i chi fentro i ble bynnag y mynnoch ond mae’n rhaid dilyn y rheolau a bod yn wyliadwrus rhag y peryglon. Dyna’r union feddylfryd sydd angen wrth fynd ar y We er mwyn bod yn ddiogel. Mae’n agor byd newydd cyffrous i chi ond rhaid bod yn ddiogel oherwydd mae profiadau gwael yn gallu bod yn glec i hyder a’r peth olaf yr ydych chi eisiau ydi hynny. Beth sy’n gyffredin iawn ydi e-byst ffug neu phishing yn Saesneg. Os oes gennych chi gyfrif e-bost, mae’n fwy na thebyg eich bod wedi derbyn un o’r rhain yn sicr. Beth ydyn nhw? E-byst ydynt fel arfer yn ffugio ei bod wedi dod gan eich banc, BT, Amazon, o’r swyddfa dreth, gan y gwasanaeth iechyd, Ebay, paypal ac yn y blaen ac yn y blaen. Y ffordd fwyaf cyfleus ag hawdd yw i leidr ddwyn eich pres yw i chi wirfoddoli eich pres iddynt neu roi’r ‘allwedd’ iddynt. Beth maent yn chwilio amdano yn fama yw eich manylion banc neu fanylion personol. Os y cewch chi e-byst gan eich banc, sy’n gofyn am ddiweddaru eich manylion personol neu’n gofyn i chi glicio ar y ddolen o fewn yr e-byst, peidiwch da chi a gwrando arnynt. Mae’r banciau i gyd yn rhybuddio eu bod byth yn cysylltu gyda chi trwy e-byst yn gofyn am fanylion personol. Os ydych wedi derbyn e-byst gan ‘Amazon’ er enghraifft yn dweud fod pecyn ar ei ffordd i rywun arall, y cyngor gorau yma yw i fynd yn uniongyrchol at wefan fel Amazon a logio fewn yn fanno, a wedyn mi fedrwch chi weld os oes yna eitem wedi cael ei brynu gan rywun arall. Dilynwch y cyfarwyddyd hynny ymhob achos, ac os mai Ebay neu fanc sy’n cysylltu, logiwch fewn trwy’r ffordd arferol, ac nid trwy glicio ar ddolen mewn e-byst. Beth sydd wedi dod yn gyffredin yn y flwyddyn ddiwethaf yw e-byst ffug yn honni ei bod yn dod o’r Gwasanaeth Iechyd yn cynnig brechlyn neu gysylltu ynghylch profi canfod ag olrhain. Peidiwch a chymryd sylw ar ddim byd sy’n dod trwy e-byst yn unig! Cyngor arall pwysig yma yw i sicrhau fod ganddoch gyfrineiriau sy’n ddiogel. Yn aml na pheidio, mae gennym lawer o gyfrifon gwahanol efo Tesco, BT, EE, Next ac yn y blaen ac mae’n hawdd anghofio cyfrineiriau gwahanol, a’r demtasiwn yw i gadw’r un cyfrinair at bob un. Ond peidiwch a gwneud hynny oherwydd os ydi haciwr yn cael mynediad i un o’ch cyfrifon, yna, mae’n agor y drws i’r cyfrifon i gyd. Ceisiwch amrywio ar y cyfrinair a chael rhif, llythyren fawr, symbol, dau air cwbl ddigyswllt, geiriau Cymraeg o fewn y cyfrinair. Ewch i howsecureismypassword.net i wirio os ydy eich cyfrinair yn ddigon diogel. Peidiwch a phoeni, mae’r wefan yma yn gwbl ddiogel! Wrth brynu nwyddau ar y We, mae’n bwysig gwirio os oes gan y wefan honno dystysgrif https:// neu os yw’r symbol clo yn bresennol, mae hwn fel arfer wedi ei leoli o flaen cyfeiriad y wefan fel arfer ar dop y ffenest y porwr. Mae’r rhain yn angenrheidiol i nodi fod y safle yn ddiogel i drosglwyddo arian arni. Cofiwch hefyd sicrhau fod yna feddalwedd gwrth-firws ar eich cyfrifiadur – mae’r rhain i’w cael am ddim, felly peidiwch a chymryd yr abwyd a thalu am un, na thalu am fersiwn arall mwy ‘cynhwysfawr’. Felly, ydi, mae yna beryglon yn bodoli, fel ymhob dim ac mae’n bwysig nodi fod y rhan fwyaf o dwyll yn parhau i ddigwydd dros y ffôn. Ond yr hyn sy’n bwysig yw os ydych ymwybodol o’r peryglon ar y We, mae’r syniad o fynd ar y we yn llawer llai pryderus. Am ragor o wybodaeth ewch chi https://wales.getsafeonline.org/ Byddwch yn ddiogel ar y We, byddwch yn ofalus ac fe fydd y profiad wedyn yn gwbl bleserus. Yn y bôn, cofiwch fod yn wyliadwrus ar y We – a pheidio gwneud penderfyniadau byrbwyll. Os ydych chi’n rhan o fudiad neu mewn oed neu’n gweithio gyda phobl mewn oed ac angen cymorth digidol, mae croeso i chi e-bostio am gymorth, hyfforddiant a chyngor Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.